Mae 1.5m o brydau ysgol am ddim ychwanegol wedi cael eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru ers i’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ddechrau ym mis Medi.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae cynllun Llywodraeth Cymru bellach yn caniatáu i 45,000 yn rhagor o blant ysgol gynradd gael yr opsiwn o ginio ysgol am ddim.

Bydd pob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.

Yn ôl amcangyfrifon, bydd bron i 66,000 o ddisgyblion ychwanegol yn cael eu bwydo ym mlwyddyn gyntaf y cynllun.

Mae £260m wedi’i ymrwymo i weithredu’r rhaglen, sy’n cynnwys £60m o arian cyfalaf ychwanegol i awdurdodau lleol ei fuddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau cegin ysgolion, gan gynnwys prynu offer a diweddaru systemau digidol.

Dechreuodd y broses o gyflwyno’r cynllun ar ddechrau tymor yr hydref, gyda phlant o’r Dosbarth Derbyn yn derbyn y prydau am ddim cyntaf.

Erbyn hyn, mae disgyblion Blwyddyn 1 a 2 hefyd yn dechrau elwa ar y cynllun.

‘Cyflawniad enfawr’

“Mae ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed i ddarparu 1.5m o brydau ysgol ychwanegol am ddim i blant cynradd yn ystod ychydig fisoedd cyntaf y broses o’u cyflwyno,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg.

“Dwi’n falch bod cymaint o blant cynradd wedi elwa ar y cynllun yn barod.

“Mae teuluoedd ar draws Cymru yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw, ac mae’r prydau ysgol am ddim yn helpu sicrhau bod plant yn cael pryd maethlon.

“Bydd y rhaglen yn parhau i ehangu yn y flwyddyn newydd, wrth i hyd yn oed mwy o awdurdodau ddechrau cynnig prydau am ddim i Flynyddoedd 1 a 2 erbyn Ebrill 2023.”

Yn ôl Siân Gwenllian, yr Aelod Dynodedig, “mae darparu 1.5m o brydau ysgol am ddim ychwanegol mewn ychydig dros dri mis yn gyflawniad enfawr ac yn un sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed”.

“Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru yn dangos sut mae cydweithio drwy’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol,” meddai.

“Rydym yn sicrhau nad oes yr un plentyn yn llwgu, tra hefyd yn rhoi help i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.

“Bydd nifer y prydau sy’n cael eu darparu hefyd yn cynyddu wrth i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau y bydd pob plentyn ysgol gynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.

“Rwyf am ddiolch i’n hawdurdodau lleol ac ysgolion am ein helpu i gyflawni hyn.”