Mae Ysgrifennydd Cymru wedi amddiffyn ei gefnogaeth i gyfyngiad cyflymder o 20m.y.a., er gwaethaf beirniadaeth ei blaid ei hun o’r polisi.

Gan siarad yn ei rôl fel Aelod Seneddol Mynwy, ymunodd David TC Davies â chynghorydd lleol i alw am ostwng y terfyn yng Nghaer-went.

Fe gyhoeddodd ddatganiad i’r wasg yn amlinellu “dicter” gan drigolion yn honni nad yw’r terfyn wedi cael ei orfodi, mater roedd David TC Davies yn addo ei godi gyda’r heddlu.

Cafodd y terfyn cyflymder yn y pentref ei ostwng o 30m.y.a. yn y gwanwyn wrth i’r uchafswm newydd o 20m.y.a. gael ei dreialu ar draws ardal Glannau Hafren yn Sir Fynwy.

Roedd yn un o wyth cymuned ar draws Cymru gafodd eu dewis ar gyfer cynllun peilot Llywodraeth Cymru ac ym mis Gorffennaf, pleidleisiodd y Senedd dros sicrhau mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu 20m.y.a. fel y terfyn cyflymder ar gyfer yr holl ffyrdd mewn ardaloedd prysur.

Ond mae’r polisi, sy’n caniatáu i gynghorau gymeradwyo terfyn cyflymder uwch os yw ffordd yn bodloni meini prawf sydd wedi’u cytuno, wedi wynebu beirniadaeth gyson gan y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yn lle arafu Cymru fel y mae gyda chyfyngiadau cyflymder o 20m.y.a. a’r gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd, efallai y dylai Llafur afael yn yr olwyn a chael Cymru’n symud eto gyda rhaglen sydd o blaid twf, o blaid busnes, o blaid gweithwyr, rhaglen sy’n gweithio i yrwyr,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid, yr wythnos hon.

Dywed David TC Davies ei fod yn cefnogi terfyn is os oes problem o ran diogelwch ar y ffyrdd.

“Dw i ddim o blaid cyfyngiad o 20m.y.a. ar draws Cymru, ond fe fydda i’n cefnogi’r rhain mewn ardaloedd lle mae mater clir o ddiogelwch ar y ffyrdd,” meddai.

“Os ydyn ni’n mynd i’w cael nhw, mae angen eu gorfodi’n iawn.”