Mae haen uchaf Senedd Sbaen wedi pasio diwygiadau i’r gyfraith o ran troseddau y cafwyd arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia yn euog ohonyn nhw yn dilyn ymgyrch 2017.

Fel rhan o’r diwygiadau, mae’r drosedd o annog terfysg wedi cael ei dileu, gyda’r gosb am drosedd lai o anhrefn cyhoeddus ymosodol yn ei disodli.

Mae’r cyfnod o garchar wedi’i ostwng, felly, o 13 o flynyddoedd i dair.

Mae’r gosb am gamddefnyddio arian cyhoeddus hefyd wedi gostwng o chwe blynedd o garchar i gyfnod rhwng un a phedair o flynyddoedd os oes modd profi nad oedd yr unigolyn am elwa’n bersonol o’r drosedd.

Gallai’r diwygiadau hyn arwain at ddiwygio dedfrydau nifer o arweinwyr yr ymgyrch yn 2017, gan arwain y ffordd hefyd i’r cyn-Arlywydd Carles Puigdemont gael dychwelyd i’r wlad ar ôl cyfnod yn alltud yng Ngwlad Belg.

Yn 2017, cafodd y refferendwm annibyniaeth gafodd ei gynnal ei ystyried yn un anghyfansoddiadol, gan arwain Llywodraeth Catalwnia i gyhoeddi annibyniaeth beth bynnag.

Cafodd y llywodraeth ei hatal yn ei hymdrechion gan Lywodraeth Sbaen, a chafodd Carles Puigdemont ei symud o’i swydd.

Cafodd nifer o arweinwyr eu herlyn a’u cael yn euog o droseddau fel annog terfysg a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Cafodd naw ohonyn nhw bardwn gan Lywodraeth Sbaen eleni, ond maen nhw wedi’u gwahardd o hyd rhag bod mewn swydd gyhoeddus.