Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i adroddiadau am ymchwiliad i sefyllfa ariannol bwrdd iechyd y gogledd, gan ddweud bod yna “stori ddigalon newydd bob wythnos” am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Daw yn yn sgil ymchwiliad i dwyll honedig gwerth miliynau o bunnoedd yn y bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud sylw.

Cefndir

Mae ymchwilwyr arbenigol wedi’u galw ar ôl i archwilwyr ddod o hyd i £122m o arian oedd heb ei gofnodi’n gywir, ac mae ymchwiliad ar y gweill gan Swyddfa Archwilio Cymru i ddarganfod pam fod diffyg “effeithiolrwydd” ar lefel y bwrdd.

Cafwyd hyd i broblemau y llynedd, wrth i archwilwyr ganfod bylchau yng nghyfrifon y bwrdd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22.

Daethon nhw o hyd i werth £72m o anfonebau a biliau heb eu talu, ond heb dystiolaeth i egluro’r sefyllfa.

Cafodd cwmni cyfrifwyr eu penodi i edrych ar y sefyllfa hefyd, a daeth cais i wasanaethau gwrth-dwyll annibynnol ymchwilio hefyd.

“Rwy’n poeni’n fawr ynghylch yr adroddiadu fod symiau mawr o arian heb eu cofnodi yng nghyfrifon Betsi Cadwaladr, a bod yna ymchwiliad arall i arweinyddiaeth uwch a’u ‘perthnasau gwaith’,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n ymddangos fel pe bai stori ddigalon newydd bob wythnos o ran materion yn ymwneud â pherfformiad y bwrdd iechyd.

“Mae hyn yn ymddangos i mi fel pennod arall o Lywodraeth Cymru’n claddu newyddion drwg dros gyfnod y Nadolig gyda’r ymchwiliadau hyn.

“Yr hyn sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwladr ydi arweinyddiaeth dda, atebolrwydd a sefydlogrwydd i atal y problemau hyn.”

Mae’r bwrdd iechyd yn dweud bod y prosesau cywir wedi’u rhoi ar waith i ymchwilio i’r honiadau ynghylch arweinyddiaeth, ac y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal “yn unol â’r gweithdrefnau a pholisïau presennol”.