Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn dweud eu bod yn parhau â chynlluniau i gynnal rhagor o streiciau yn y flwyddyn newydd
Dywed aelodau’r Coleg eu bod nhw’n rwystredig ac yn flin am y diffyg ymgysylltu gan Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ar ddyfarniad cyflog i’r staff nyrsio.
Fe wnaeth gweithwyr nyrsio proffesiynol ledled Cymru brotestio ddwywaith y mis hwn yn erbyn cyflogau gwael a phrinder staff cronig.
Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru o’r farn bod ganddyn nhw fandad clir ar gyfer streicio pellach gan fod rhan helaeth o’r cyhoedd yn eu cefnogi.
‘Haeddu gwell’
“Rwyf wedi fy siomi’n arw wrth fynd i mewn i wyliau’r Nadolig heb unrhyw ddatrysiad i hyn,” meddai Helen Whyley, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.
“Nid yw’n ymddangos bod dau ddiwrnod o streicio wedi symud gweinidogion Llywodraeth Cymru o gwbl sy’n parhau i guddio y tu ôl i ffrae ariannu yn hytrach na chanolbwyntio ar ddatrys anghydfod Cymreig sy’n effeithio ar bobol o Gymru.
“Pan ymwelais â’n llinellau piced, dywedodd nyrsys wrthyf eu bod yn wynebu’r Nadolig hwn gyda chalonnau trwm.
“Mae pob un ohonyn nhw’n gwybod y byddan nhw’n wynebu prinder staff, a phrin y bydd nyrsys yn gallu cynhesu eu cartrefi heb sôn am wneud y gwyliau’n arbennig ar gyfer eu hanwyliaid.
“Mae’r sefyllfa bresennol o fewn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn bryderus iawn gyda risgiau sylweddol i gleifion gan staff nyrsio annigonol a gweithlu sy’n cael trafferthion yn llosgi.
“Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn credu bod y cyhoedd yn haeddu gwell, a’r ffordd o gadw a denu staff nyrsio yw eu gwobrwyo’n briodol am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud.
“Rhaid cefnogi’r gweithlu nyrsio i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion, a rhaid i hyn ddechrau gyda chodiad cyflog sylweddol.
“Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru’r wythnos hon yn gofyn am ffordd ymlaen er mwyn osgoi rhagor o streicio yng Nghymru.
“Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ymrwymiad gwirioneddol i ddatrys yr anghydfod yma bydd diwrnodau streic newydd yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.”