Mae mwy na miliwn o bobol yng Nghymru yn gallu canu ‘Yma O Hyd’, yn ôl pôl piniwn YouGov gafodd ei gomisiynu gan fudiad annibyniaeth YesCymru.
Dywedodd 35% o’r rhai atebodd yr arolwg eu bod nhw’n gwybod geiriau cytgan y gân wladgarol gan Dafydd Iwan.
Mae’r ffigwr hwn yn ychwanegol i’r 230,000 o blant yn ysgolion cynradd y wlad ddysgodd y geiriau ar gyfer ymddangosiad tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd.
Yn yr un pôl piniwn, mynegodd tri ym mhob pedwar (75%) nad oes ganddyn nhw ffydd yn Llywodraeth San Steffan, gyda llai nag un ym mhob pump yn datgan bod ganddyn nhw ffydd yn San Steffan (18%).
Yn y cyfamser, mae gan 48% hyder yn y Senedd, yn erbyn 44% heb ffydd.
Ychydig iawn o newid fu yn lefelau’r gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru ers 2021, y tro diwethaf i YesCymru gomisiynu pôl gan YouGov.
Bryd hynny, fe wnaeth 29% o’r rhai atebodd ddatgan elfen o gefnogaeth (neu 32% os ydym yn diystyrru y sawl sydd heb farn o gwbl).
Yn y pol yma, mymryn yn llai nag un ym mhob pedwar (23%) fyddai’n pleidleisio ‘Ie’ pe bai refferendwm annibyniaeth i Gymru yfory, gyda chanran uwch yn tueddu at annibyniaeth (29%) yn hytrach nag yn erbyn.
Dydy 12% heb wneud penderfyniad y naill ffordd neu’r llall, ac mae 10% yn rhagor yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod, neu wedi gwrthod ateb.
‘Status quo yn annerbyniol’
“Er bod dim twf i gefnogaeth dros Annibyniaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n glir bod y ‘status quo’ yn annerbyniol bellach i boblogaeth Cymru,” meddai Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru.
“Mae dyletswydd arnom nawr yn YesCymru i greu achos gref dros annibyniaeth a darbwyllo fwyfwy o drigolion Cymru bod yn hen bryd cymryd ein lle priodol fel gwlad ar y llwyfan rhyngwladol.
“Ni fedrwn fod yn fodlon gyda chefnogaeth teiran o’r boblogaeth, rhaid perswadio’r teiran arall i gofleidio y syniad o Annibyniaeth.”
Yn ôl Elfed Williams, cadeirydd YesCymru, mae’r gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru wedi treblu dros y degawd diwethaf.
“Erbyn heddiw rydym yn yr un fan ag oedd y gefnogaeth i’r ymgyrch dros annibyniaeth yn yr Alban yn 2014,” meddai.
“Rhaid bwrw ati i ennill calonnau a meddyliau pobol Cymru fesul un, tan ein bod ni hefyd yn medru efelychu ein perthnasau Celtaidd o’r Gogledd a gweld mwyafrif ysgubol yn gadarn o blaid annibyniaeth i Gymru.’’