Mae’r cynlluniau ar gyfer adeilad ysgol Gymraeg newydd yn Sir y Fflint wedi cael eu datgelu.
Mae adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cynlluniau pensaer sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod ar gyfer safle’r ysgol newydd yn Oakenholt.
Maen nhw’n rhan o strategaeth y cyngor i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, a bydd y safle newydd yn disodli adeilad presennol Ysgol Croes Atti ar Ffordd Caer yn y Fflint.
Hwn fyddai’r adeilad newydd cyntaf mewn ysgol Gymraeg yn Sir y Fflint ers dros chwarter canrif – 1996.
Mae’r cais cynllunio yn cynnwys cynigion ar gyfer tirlunio meddal a chaled, gardd law, Ardal Chwarae Amlbwrpas (MUGA), caeau pêl-droed a rownderi, ac ardaloedd chwarae naturiol.
Mae cynlluniau ar gyfer maes parcio i 96 o gerbydau staff ac ymwelwyr, gan gynnwys mannau parcio i bobol ag anableddau, tri lle gwefru trydan a phedwar lle i fysiau mini, gyda lle i 25 o gerbydau ychwanegol o’i ehangu yn y dyfodol.
Mae gwaith trin ffiniau o fewn a hyd at ffiniau’r safle’n cynnwys plannu blodau gwyllt a choed, ac mae’r cais hefyd yn ceisio ehangu ffordd fynediad ar y cyd ar Ffordd Dewi i mewn i’r safle.
Mae safle’r ysgol arfaethedig ar hen dir amaethyddol, gyda ffiniau’n gyfuniad o berthi hanesyddol a chyfoes.
Cyn y datblygiad preswyl ar ochr ogleddol y safle, roedd y tir o’i amgylch yn cynnwys bythynnod gweithwyr, ffermydd a Melin Croes Atti.
Lle i 240 o ddisgyblion
Mae datganiad dylunio a mynediad gafodd ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn dweud y bydd lle i 240 o ddisgyblion, gyda lle dros ben i gynyddu’r nifer i 420 o ddisgyblion pe bai digon o alw yn y dyfodol.
Bydd meithrinfa ran amser hefyd, gyda lle i 30.
Dywed y datganiad, gafodd ei baratoi gan (Not Just) Architecture ar ran y Cyngor fod “Ysgol Croes Atti yn ysgol gynradd Gymraeg sy’n gweithredu ar draws safleoedd yn y Fflint a Shotton”.
“Mae ganddi oddeutu 280 o blant rhwng tair ac 11 oed ar draws y ddau safle, yn ogystal â chylch chwarae hawliau cynnar, a Meithrin.
“Mae’r adeilad presennol yn y Fflint yn dod i ddiwedd ei oes, a dydy e ddim bellach yn addas at y pwrpas.
“Mae’r datganiad hwn yn cefnogi cyfleuster newydd arfaethedig, wedi’i ddylunio i gynnal y rhai sy’n defnyddio adeilad presennol yr ysgol yn y Fflint.
“Mae gan yr adeilad newydd arfaethedig gafodd ei ddylunio ar y cyd rhwng staff a disgyblion Ysgol Croes Atti arwynebedd llawr mewnol gros o 2046 metr sgwâr dros ddau lawr.”
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad ynghylch y cais yn y dyfodol.