Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r newyddion fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio’r Gronfa Tanwydd Uwch newydd gwerth £165m.

Bydd pum prosiect newydd ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys un ym Mhort Talbot, yn derbyn cyfran o’r gronfa hon.

Y bwriad, yn ôl y Llywodraeth, yw cefnogi’r Deyrnas Unedig i ddod yn arweinydd byd mewn tanwydd hedfan cynaliadwy.

Bydd y prosiect ym Mhort Talbot yn derbyn £24,960,843 o gyllid ac mae disgwyl i’r ffatri fod yn weithredol erbyn 2026.

‘Radical’

“Rwy’n falch iawn o glywed y newyddion bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi cymryd cam radical arall tuag at allyriadau carbon sero-net drwy’r Gronfa Danwydd Uwch newydd hon,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, wrth drafod y cyhoeddiad.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi hyrwyddo prosiect Lanzatech ym Mhort Talbot ers amser maith ac yn croesawu’r ffaith y bydd yn derbyn £25m ac yn darparu miloedd o swyddi gwyrdd, sgiliau uchel, â chyflog uchel.

“Mae’n amlwg mai’r Ceidwadwyr, nid Llafur, sy’n arwain y tâl tuag at sero net ym Mhrydain Fawr, gan gymryd y camau pendant yr ydym mor daer eu hangen.”