Tua thair wythnos yn ôl, roeddwn wedi cyffroi ac yn edrych ymlaen at ddiwrnod, tybiais, o fod ychydig yn ‘ddeinamig’.
Roeddwn yn mynd i Dŷ Pawb i fod yn rhan o’r gynulleidfa ar gyfer y rhaglen Y Wal Goch, wedi gwisgo fy nghrys pêl-droed Wrecsam, hefo’r hoodie a chôt i fatsio.
Piciais i’r swyddfa ym Mhrifysgol Glyndŵr i wneud fideo hyrwyddo fy ‘ysgrif am yr ysgrif’ i gylchgrawn Planet, ac ar ôl bach o strach technegol, a hefyd strach ramblo’n amherthnasol, anfonais fideo hir a nerd-aidd at y golygydd, Emily Trahair.
Gyda hynna wedi ei gyflawni, a munudau yn unig i’w sbario, rhuthrais draw i Dŷ Pawb, gan deimlo bach fel Anneka Rice ers talwm!
Fel trodd allan, roedd digonedd o amser, a ges i fwyd hyfryd o Curry-on-the-go, a sgwrs ddiddorol hefo grŵp o ddysgwyr o Goleg Cambria, oedd hefyd ene i gefnogi’r rhaglen.
Roedd pethe’n siapio’n dda, gan oeddwn yn mynd ymlaen wedi’r rhaglen i’r Saith Seren am noson ‘Jam night’. O, oeddwn! Roeddwn yn teimlo’n ‘ddeinamig’.
Rhaglen am y Wal Goch
Roedd y set yn drawiadol – yn wir, fyswn heb adnabod y lle! Roedd yna fyrddau picnic ac eisteddais wrth un ohonynt hefo criw o bobol eraill.
Ar ôl esbonio sut fysa’r rhaglen yn mynd, wnaeth y cyfarwyddwr ddweud fod o am gael shots ohonon ni yn clapio – felly wnaethon ni gyd glapio a bloeddio a chwerthin.
Yna, wnaeth o ddweud ein bod ni am wneud yr un peth eto ond hefo ‘goleuadau’, a dechreuodd y goleuadau fflachio o’m cwmpas.
Mae hyn, wrth gwrs, yn ‘standard fare’ y dyddiau hyn, ac i’w weld yn cynyddu fel y cyfryw, wrth i blatfformau megis TikTok normaleiddio effeithiau a symudiadau ailadroddus. Mae pobol yn gyfarwydd â hyn, yn ei ddisgwyl, ac yn awchu amdano hyd yn oed.
Fodd bynnag, i rai pobol, mae’r math yma o beth yn medru gwneud iddynt deimlo’n sâl, ac, i bobol fel fi, mae peryg iddyn nhw achosi cymhlethdodau iechyd.
Ffotosensitifrwydd a thrawiadau
Mae’r cysylltiad rhwng trawiadau epileptig a goleuadau yn fflachio yn reit gyfarwydd erbyn hyn.
Mae gen i hanes iechyd cymhleth, lle cefais yr hyn oedd yn cael ei alw ar y pryd yn ‘Febrile convulsions’, sef trawiadau sydd yn digwydd yn ystod plentyndod.
Cymerais y cyffur gwrth-drawiadau ‘Epilim’ am saith mlynedd gyntaf fy mywyd i’w rheoli nhw, ac mi ges i relapse tua 1988 a glanio yn yr ysbyty. Rwy’ wedi bod yn rhydd o drawiadau ers hynny, ond mae bwgan epilepsi yn fy arswydo. Felly dwi’n osgoi unrhyw beth fysa’n medru ysgogi trawiadau, a hefyd unrhyw beth sydd yn ysgogi’r teimladau tebyg.
Dwi wastad wedi cael problemau hefo goleuadau strôb, ac wedi hen dderbyn ga’i byth fynd i gyngerdd Pink Floyd, ond mae fy ffotosensitifrwydd i’w weld yn gwaethygu dros amser, a hynny, yn anffodus, wrth i’r stimuli hyn dyfu mewn poblogrwydd.
Yn wir, mae yna eironi fan hyn, a rhaid chwerthin ar fy hun braidd – dyna le roeddwn i, yn gwisgo crys pêl-droed glas hefo TikTok arno mewn llythrennau mawr (nhw sy’n noddi Clwb Pêl-droed Wrecsam), ac yntau’n app na fedraf sbïo arno rhag ofn iddo fy ngwneud i’n sâl!
Beth bynnag, roeddwn fel cwningen mewn goleuadau car, ond rhywsut llwyddais i ddweud yn ddigon uchel a chlir beth oedd yn bod, ac mi wnaeth y ddynes oedd yn eistedd nesaf ata i glywed a gweithredu ar fy rhan – hoffwn ddiolch iddi am hyn.
Allan o’r limelight a draw i’r cysgodion
Ac felly, daeth fy mhrofiad cyffrous fel rhan o’r rent-a-crowd a bod ar y teli-bocs i ben cyn iddo gychwyn hyd yn oed.
Daeth y cyfarwyddwr draw ac, ar ôl trafod faint o oleuadau fyddai yn y rhaglen, gwnaethom benderfynu taw’r peth mwyaf call fyddai i mi adael y set a mynd draw i’r Saith Seren yn fuan.
Doedd hyn ddim yn broblem ynddi ei hun wrth gwrs, ond roedd yna oblygiadau tu hwnt i’r digwyddiad yma. Eisteddais yn y Saith Seren mewn sioc yn trio prosesu beth oedd wedi digwydd.
Cefais sgwrs ddifyr hefo cyfaill ene, a braf iawn yn wir oedd dod i’w nabod o’n well gan nad oeddwn wedi siarad hefo fo o’r blaen, er ein bod ni’n dau yn mynychu ‘Jam night’ yn gyson.
Mae’r Saith Seren fel arfer yn cael goleuadau sy’n fflachio i ‘Jam night’, ond mae Nia Catrin sy’n rhedeg y lle yn trefnu i ddefnyddio ‘spotlights’ yn unig, os ydy hi’n gwybod fy mod yn dŵad, er mwyn i mi gael cymryd rhan. Rwy’n ddiolchgar iawn am ei charedigrwydd.
Ac felly, dyma le rwy’ wedi cyrraedd erbyn hyn, yn pendroni pa ran ga’i chwarae ym mywyd bach sgleiniog ein cymdeithas fodern – bwgan yn y cysgodion, efallai?