Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi ysgrifennu at arweinydd Cyngor Caerdydd i fynegi pryder ynghylch y cynigion i breifateiddio Neuadd Dewi Sant a chau Amgueddfa Caerdydd.
Fe fydd y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus fydd yn dechrau fory (dydd Gwener, Rhagfyr 23).
Dywed fod angen “gwneud popeth posibl i sicrhau eu dyfodol fel rhan o’n harlwy i drigolion ac ymwelwyr i Gaerdydd”.
“Nid yw diwylliant yn rywbeth neis i’w gael pan fo amseroedd yn dda,” meddai Heledd Fychan.
“Mae diwylliant yn rhan annatod o’n hunaniaeth a dylai fod ar gael i bawb i fedru ei fwynhau.
“Mae Neuadd Dewi Sant ac Amgueddfa Caerdydd yn drysorau cenedlaethol, ac nid yn unig yn gwasanaethu’r boblogaeth leol ond hefyd yn rhan bwysig o’n harlwy i ymwelwyr a thwristiaid.
“Pan gafodd cynigion o’r fath eu cyflwyno gan y Cyngor yn 2016, roedd yna brotestiadau lu gan y cyhoedd a chafodd y ddau sefydliad eu hachub.
“Mae gweld y cynlluniau hyn bellach yn cael eu hailystyried yn gwneud i mi gwestiynu pam nad yw Cyngor Caerdydd wedi gwneud mwy yn y blynyddoedd ers hynny i ddiogelu arlwy ddiwylliannol Caerdydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae Amgueddfa Caerdydd wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys ennill Gwobr Aur Croeso Cymru am ddarparu profiad cofiadwy i ymwelwyr yn gynharach eleni.
“Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Cyngor Caerdydd wedi lleihau’r gofod sydd ar gael i’r Amgueddfa trwy osod mentrau eraill yn yr adeilad, gan gyfyngu ar ei gweithgareddau cynhyrchu incwm.
“Mae symud yr amgueddfa gyfan i gynnig symudol yn golygu bydd yr amgueddfa yn cau, ac mae’n gamarweiniol dweud fel arall.
“Rwy’n annog Cyngor Caerdydd i ailystyried y cynigion hyn ar fyrder, ac yn lle hynny edrych ar ffyrdd eraill o gadw Neuadd Dewi Sant ac Amgueddfa Caerdydd mewn perchnogaeth gyhoeddus.
“Unwaith y byddant yn cael eu colli, byddant yn cael eu colli am byth, a dylem fod yn gwneud popeth posibl i sicrhau eu dyfodol fel rhan o’n harlwy i drigolion ac ymwelwyr i Gaerdydd.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Caerdydd.