Daeth cadarnhad y bydd Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Abertawe unwaith eto ym mis Gorffennaf, a’r gobaith yw y bydd yn ddigwyddiad blynyddol o hyn ymlaen.
Roedd pwysau ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe i sicrhau bod y digwyddiad yn dod yn un blynyddol yn dilyn ei lwyddiant y llynedd.
Fe fu’n cael ei gynnal bob dwy flynedd cyn hyn.
Aeth 170,000 o ymwelwyr i Fae Abertawe ar gyfer y digwyddiad y llynedd, gan gyfrannu £7.6 miliwn at economi’r ardal.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Orffennaf 2 a 3 eleni.
Mae’r Cyngor wedi datgelu y bydd y Red Arrows, y Eurofighter Typhoon a hofrennydd Chinook yn dychwelyd unwaith eto eleni.
Mae penaethiaid busnes yr ardal wedi croesawu’r cyhoeddiad.