Y Swyddfa Dramor
Mae adroddiadau bod dyn o wledydd Prydain wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn dilyn ffrwgwd yn Sbaen.

Mae nifer o bobol o wledydd Prydain wedi cael eu harestio yn dilyn ffrwgwd mewn bar yng nghyffiniau Alicante ar y Costa Blanca fore Sadwrn.

Mae’r Swyddfa Dramor yn cynnig cymorth i’r awdurdodau wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.

Daeth cadarnhad gan y Swyddfa Dramor fod pedwar o bobol o wledydd Prydain wedi cael eu harestio.

Mae lle i gredu bod dynes ymhlith y rhai sydd wedi cael eu harestio.