Alan Rickman (Marie-Lan Nguyen CCA 2.0)
Roedd yr actor Alan Rickman, a fu farw ddoe, yn falch iawn ei fod yn hanner Cymro yn ôl un o’i ffrindiau, y gwleidydd Glenys Kinnock.

Fe soniodd yn gyhoeddus fwy nag unwaith am ei falchder fod ei fam a’i theulu yn dod o Drefforest ger Pontypridd.

Roedd wedi trafod hynny’n ddiweddar mewn cyfweliad ar Radio Wales ac ar yr orsaf honno, fe ddywedodd y Farwnes Kinnock ei fod hefyd yn gefnogwr cry’ i’r Blaid Lafur.

‘Caredig a doniol’

Mae teyrngedau wedi dod o bob cyfeiriad i’r actor a ddaeth yn enwog am fod yn ddyn drwg mewn ffilmiau fel Die Hard, Robin Hood: Prince of Thieves a Harry Potter.

Roedd hefyd wedi ennill gwobrau Emmy a Golden Globe am actio’r offeiriad dieflig, Rasputin, ond, yn ôl Glenys Kinnock, roedd yn ddyn “caredig a swynol” yn ei fywyd go iawn.

“Roedd yn ddyn doniol iawn, iawn,” meddai wrth Radio Wales.