Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau’r amheuon fod “hen ddyfais ffrwydrol” wedi’i chanfod ym mhentref Llanllwni yng Ngheredigion.

Roedd yr heddlu wedi cau’r briffordd rhwng Llanbed a Chaerfyrddin ar ôl adroddiadau fod bom wedi’i darganfod yn y pentref.

Fe fu Clonc360 yn adrodd fod dyfais bosib wedi ei chael ger polyn trydan ynghanol y pentref, a bod faniau National Grid hefyd wrth law.

“Am oddeutu 8.45yb bore yma, fe wnaethom dderbyn adroddiad gan aelod o’r cyhoedd oedd yn gweithio yn ardal yr A485 yn Llanllwni eu bod wedi dod o hyd i eitem yr amheuir ei fod yn hen ddyfais ffrwydrol,” meddai’r heddlu.

“Fe wnaeth swyddogion fynd i’r lleoliad i asesu’r eitem, a chafwyd cyngor arbennigol gan Explosive Ordnance Disposal.

“Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd rhoddwyd cordon yn ei le a caëwyd yr A485 ger Celtic Classics hyd nes y clywir yn wahanol.

“Bydd swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig o’r Explosive Ordnance Disposal yn mynychu i gael gwared ar y ddyfais yn ddiogel.

“Gofynnir i aelodau o’r cyhoedd a modurwyr i osgoi’r ardal, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.”

Amheuaeth o fom yn Llanllwni

Luned Mair

Yr heddlu wedi cau’r briffordd trwy’r pentre’