Mae Plaid Cymru yn galw ar Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, i ymweld â Thywyn i weld yr argyfwng sy’n wynebu meddygon teulu yno.
Dywed Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, fod cymunedau gwledig yn ei etholaeth yn dioddef yn anghymesur o ran yr argyfwng recriwtio.
Yn ystod cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Pendre fis diwethaf, gafodd ei drefnu gan Mabon ap Gwynfor, fe ddaeth bron i 200 o bobol ynghyd i ddweud eu dweud ar wasanaethau iechyd yr ardal, gan gynnwys y prinder meddygon teulu a deintyddion.
Mae ffigurau gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn datgelu bod gan Gymru gyfran uwch o feddygon teulu dros 60 oed nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig.
O’r 3,107 o feddygon teulu yng Nghymru, mae 742 (23.9%) yn agosáu at oedran ymddeol.
Cadarnhaodd Eluned Morgan heddiw (dydd Iau, Mawrth 9) fod 1,562 o’r holl feddygon teulu yng Nghymru yn gweithio’n llawn amser.
Dangosodd ymchwil gan BMA Cymru yn 2014 hefyd fod angen i Gymru recriwtio 200 o feddygon teulu ychwanegol y flwyddyn i ateb y galw cynyddol am wasanaethau.
Fodd bynnag, dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi cyrraedd y targed yma ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf.
Galw am ddatblygu cynllun recriwtio effeithiol
“Fe wnes i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nhywyn fis yn ôl i drafod y problemau sylweddol mae pobol yr ardal yn eu dioddef yn sgil diffyg gwasanaethau iechyd yno,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Roedd Neuadd Pendre yn orlawn, sydd yn dyst i’r teimladau cryfion yn yr ardal.
“Roedd gan yr ardal wasanaeth a darpariaeth iechyd rhagorol tan tua phedair blynedd yn ôl.
“Rŵan maen nhw wedi mynd o gael pedwar meddyg mewn partneriaeth i gael meddygfa o dan reolaeth y bwrdd iechyd, gyda dim ond hanner meddyg teulu.
“Mae gweddill de Meirionnydd yn wynebu dyfodol tebyg, efo nifer o feddygon teulu ar fin ymddeol.
“Os nad ydyn ni’n ofalus, yna mae yna berygl mai dim ond dau feddyg teulu llawn amser fydd yna ar gyfer de Meirionnydd gyfan yn fuan.
“Yn wir, mae bron i chwarter o holl feddygon teulu Cymru dros eu 60, ac nid nepell o ymddeol.
“Mae angen o leiaf dri meddyg teulu arall ar fro Dysynni a Thywyn, ac, wrth gwrs, rhagor ar gyfer gweddill Meirionnydd.
“Fe hoffwn wahodd y Gweinidog i ymweld â Thywyn efo fi, sydd wrth gwrs yn ei rhanbarth, a gofyn iddi weithio gyda’r bwrdd iechyd i ddatblygu cynllun recriwtio effeithiol ar fyrder er mwyn denu meddygon teulu i fro Dysynni a de Meirionnydd.”