Mae trigolion Tywyn a Bro Dysynni wedi cefnogi galwadau am fwy o feddygon teulu a deintyddion i helpu i gwrdd â’r pwysau ar wasanaethau iechyd lleol yn ne Meirionnydd.

Yn ystod cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Pendre, Tywyn yr wythnos ddiwethaf gafodd ei drefnu gan Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, fe ddaeth bron i 200 o bobol ynghyd i ddweud eu dweud ar wasanaethau iechyd yr ardal.

Ymysg y materion o bryder i drigolion roedd yr angen am fwy o feddygon teulu a deintyddion, a galwad i’r bwrdd iechyd wneud gwell defnydd o Ysbyty Tywyn drwy gynyddu nifer y gwelyau a recriwtio mwy o nyrsys i helpu i liniaru’r argyfwng gofal cymdeithasol.

Roedd pryderon hefyd gan y rhai sy’n byw ar gyrion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, oedd yn teimlo bod eu hanghenion iechyd yn cael eu hanwybyddu o ystyried eu hagosrwydd at ddau fwrdd iechyd arall – Hywel Dda a Phowys.

Pobol Bro Dysynni yn dioddef yn ‘anghymesur’

“Mae Tywyn a Bro Dysynni wedi gweld dirywiad cyflym yn narpariaeth gwasanaethau iechyd mewn cyfnod byr o amser,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae’n fater o bryder eang o fewn y gymuned leol, un y mae pobol am weld yn cael sylw fel mater o frys.

“O ddiffyg meddygon teulu a deintyddion, i ysbyty cymunedol heb ddigon o adnoddau ac sy’n cael ei tan-ddefnyddio – mae pobol Bro Dysynni yn dioddef yn anghymesur o ran cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn agos at eu cartrefi.

“Yn ddealladwy, mae pobol yn poeni, drostynt eu hunain a’u hanwyliaid.

“Roedd hyn yn amlwg yn y cyfarfod cyhoeddus a drefnais yn Nhywyn i fesur yn union sut mae’r dirywiad yma mewn gwasanaethau iechyd yn effeithio ar fywydau pobol.

“Er nad yw’r sefyllfa ym Mro Dysynni yn unigryw o bell ffordd, mae’r broblem gymaint â hynny’n fwy difrifol yma, a bydd yn cael ei hailadrodd ar draws y Gymru wledig yn y blynyddoedd i ddod oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r heriau iechyd penodol hyn rwan hyn.

“Er bod rhwystrau i ofal iechyd ym Mro Dysynni yn helaeth, mae’r problemau sy’n wynebu meddygon teulu yn ddifrifol ac wedi’u gwaethygu gan gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys natur wledig yr ardal, poblogaeth sy’n heneiddio, sgil-effeithiau Covid, a phroblemau cadw a recriwtio.”

Angen newid strategaeth recriwtio meddygon teulu

“I waethygu’r sefyllfa, rydyn ni rŵan yn gweld mwy o feddygon teulu yn ymddeol yn gynnar oherwydd eu bod wedi cael digon,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Rwy’n cofio dro ar ôl tro rhagrybuddio’r llywodraeth flynyddoedd yn ôl ein bod yn wynebu argyfwng mewn meddygaeth teulu gydag ymddeoliadau cynnar torfol – ond ni wnaed dim.

“Yn Nhywyn, collwyd dau feddyg teulu da iawn ychydig flynyddoedd yn ôl, ac ni allai’r bartneriaeth ddenu digon o bartneriaid newydd.

“Mae’r meddygon teulu sydd ar ôl yn wych.

“Mae gennyf hyder llwyr ynddynt, ac maent yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol.

“Ond mae angen i ni recriwtio meddygon teulu newydd a chadw’r rhai sydd gennym ac atal y llif o feddygon teulu rhag gadael.

“Mae’n ofyn mawr.

“Ond mae angen i’r Bwrdd Iechyd edrych ar ei strategaeth adnoddau dynol pan ddaw’n fater o recriwtio meddygon teulu newydd.

“Un ffordd yw rhoi contractau i feddygon teulu.

“Efallai fod yn awgrym syml, ond dysgais yn ddiweddar nad yw meddygon locwm i bractis a reolir – practis sy’n cael ei redeg gan y Bwrdd Iechyd yn derbyn contract – maent yn gweithio ar gontract dim oriau ac yn cael eu talu ar ymddiriedaeth. Rhaid i hyn newid.

“Mae angen i reolaeth practis meddyg teulu ddod yn ôl i’r feddygfa, heb ei reoli gan reolwyr di-wyneb ym Mangor neu Fodelwyddan.

“Byddai hyn yn sicrhau atebolrwydd lleol fel bod rheolwyr yn gweld yr effeithiau ar lawr gwlad.

“Mae mwy na hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd.

“Ond o hyn, dim ond 8% sy’n cael ei ddyrannu i feddygon teulu.

“Er hynny, mae practisau meddygon teulu yn gwneud mwy nag 80% o’r gwaith a dyma lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn dechrau ac yn gorffen ein triniaethau.

“Nid oes unrhyw atebion tymor byr i ddatrys yr argyfwng mewn gofal sylfaenol.

“Mae staff rheng flaen ar lawr gwlad ym Mro Dysynni yn gweithio’n galed i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt.

“Rydym wedi gweld camau bach i’r cyfeiriad cywir gan gynnwys recriwtio cydlynydd gofal a buddsoddi mewn uwchsgilio uwch-ymarferydd nyrsio.

“Ond mae angen mwy arnynt, ac i ateb y galw hwnnw rhaid i’r Bwrdd Iechyd wrando ar bryderon pobol a thrin y sefyllfa hon gyda’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu.

“Mae dirfawr angen gweld y Bwrdd yn cyflogi meddygon teulu newydd yn Nhywyn.”