Mae David Wilson, gweithiwr proffesiynol blaenllaw ym maes y celfyddydau, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr newydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’n Gyfarwyddwr Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu ers 2019.

Yn ddysgwr Cymraeg brwd, bydd yn dechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Fehefin 30.

Yn actor proffesiynol yn wreiddiol, graddiodd David gyda gradd mewn Drama o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, cyn cwblhau diploma ôl-raddedig mewn Rheolaeth Celfyddydau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yn 2000, cyd-sefydlodd yr Actors Workshop, sy’n parhau i ddarparu hyfforddiant drama ac actio dros ugain mlynedd yn ddiweddarach.

O 2002-07, bu’n gweithio’n agos gyda Joanne Benjamin, cynhyrchydd yn y West End, yn ei rôl fel Prif Weithredwr Gŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd.

Yn 2008, daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn Diversions, lle bu’n gyfrifol am yr adrannau cyllid a gweinyddu, marchnata, cyfranogiad a phrosiectau.

Bu’n cydlynu’r gwaith o ailenwi ac ailfrandio i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a’r cais cynllun busnes llwyddiannus ar gyfer yr Adolygiad Buddsoddi.

Yn 2012, ynghyd â’r actor Dan Porter, cyd-sefydlodd Porter’s yng Nghaerdydd, gofod cymdeithasol â ffocws artistig sydd erbyn heddiw yn far arddull theatr sydd wedi ennill sawl gwobr.

Yn 2015, ychwanegwyd at arlwy adloniant unigryw Porter’s drwy sefydlu Theatr Dafarn barhaol cyntaf Cymru, ‘The Other Room’, a bu’nn Gynhyrchydd Gweithredol ohoni tan 2018.

Ers Ionawr 2019 mae wedi bod wrth y llyw yn Theatr Brycheiniog.

Mae’n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn Gymrawd Arweinyddiaeth Clore, ac yn Ymddiriedolwr ar gyfer Creu Cymru, asiantaeth celfyddydau perfformio Cymru.

‘Hyfryd cael dod yn ôl’

“Mae David Wilson yn weithiwr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau, gyda gyrfa gyfoethog ac amrywiol, ac rwy’n falch iawn y bydd yn dod â’r holl arbenigedd hwnnw i rôl Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Mae Canolfan y Celfyddydau yn ganolbwynt i’r gymuned leol yma yn Aberystwyth, a hefyd yn ganolog i fywyd artistig canolbarth a gorllewin Cymru.

“Bydd dealltwriaeth sylweddol David o sector y celfyddydau a’i ymrwymiad i gefnogi artistiaid ac archwilio artistig yn fuddiol iawn wrth i’r Ganolfan ehangu ymhellach ei henw rhagorol am ddiddanu cynulleidfaoedd a rhoi llwyfan i lawer o berfformwyr ac artistiaid amrywiol o Gymru a thu hwnt.”

Dywed David Wilson, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, ei bod yn “hyfryd cael dod yn ôl” i’r brifysgol lle cafodd ei addysg.

“Rwyf wrth fy modd fy mod yn dychwelyd i Aberystwyth yn Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth,” meddai.

“Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod fel myfyriwr yn y dref yn fawr, ac roeddwn yn ymhyfrydu yn y bywyd a’r profiad o fyw mewn rhan mor anhygoel o Gymru sydd â chymaint i’w gynnig.

“Mae’n hyfryd cael dod yn ôl.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r tîm a chyfrannu at lwyddiant parhaus y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau.

“Rwyf wedi edmygu rhaglen ac effaith y Ganolfan ers tro, gyda’r fath ehangder o ffurfiau celf ac amrywiaeth o raddfeydd a gofodau, rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod cynulleidfaoedd a chyflwyno mwy i fyfyrwyr, staff a Cheredigion.”

Penodi Dafydd Rhys yn Brif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru

“Mae’n benderfynol o ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu â’r celfyddydau ar sail parch at greadigrwydd lleol,” meddai’r cadeirydd Phil George