Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod 27 o ymchwiliadau ymddygiad 24 o unigolion yn cael eu cynnal o fewn Heddlu’r Gogledd ar hyn o bryd.

Mae 13 achos yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys camymddwyn rhywiol a cham-drin domestig gan unigolion o fewn yr heddlu.

Daw’r adroddiad heddiw (dydd Llun, Chwefror 20) ar ôl i lys ganfod David Carrick yn euog o lu o droseddau fel treisio, trais yn erbyn merched ac ymddygiad gorfodol tra roedd yn swyddog yn Heddlu Llundain.

Mae’r adroddiad yn edrych ar oblygiadau achos David Carrick yng nghyd-destun lleol Heddlu’r Gogledd, mynychter achosion o gasineb at ferched yn yr heddlu, nifer yr achosion o dan ymchwiliad, a’r mesurau sydd yn eu lle.

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan dîm heddlu o dan arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, ar ran Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru.

Ymchwiliadau ar dro

“Mae plismona wedi bod o dan chwyddwydr sylweddol yn dilyn achosion amlwg iawn lle mae uniondeb y rhai hynny sy’n gwasanaethu yn heddluoedd y DU wedi cael ei gwestiynu,” meddai Amanda Blakeman yn yr adroddiad.

“Disgwylir safonau uchel gan swyddogion heddlu ac mae’n angenrheidiol eu bod yn glynu at yr un safonau personol maent yn eu gorfodi.

“Unwaith yn rhagor, mae plismona wedi cael sylw’r cyfryngau cymdeithasol am y rhesymau anghywir.

“Hoffwn bwysleisio fy mod yn credu fod y mwyafrif o’n swyddogion a staff yn onest, diwyd ac yn gwbl ddibynadwy.

“Rwyf yn gwybod eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau gyda’r proffesiynoldeb mwyaf.

“Bydd effaith ddinistriol troseddau Carrick yn mynd ymhell tu hwnt i’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan.

“Mae trafodaethau wedi digwydd rhwng pob prif swyddog a’r Swyddfa Gartref ynghylch ei droseddu ffiaidd a’r camau arfaethedig.

“Rwyf yn siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb pan rwyf yn dweud fod troseddau David Carrick yn ffiaidd a brawychus, yn waeth oherwydd y swydd gyfrifol roedd ganddo wrth droseddu fel hyn.

“Yn wir, rwyf yn meddwl am y dioddefwyr dewr a ddangosodd y cryfder mwyaf wrth hysbysu am y troseddau hyn ynghyd â dioddef y posibilrwydd o fod ynghlwm ag achos amlwg iawn.

“Rwyf eisiau bod yn gwbl agored, onest a thryloyw ynghylch yr achosion camymddwyn presennol o fewn Heddlu Gogledd Cymru, sy’n sefydliad sy’n cyflogi 1662 o Swyddogion Heddlu, 186 o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu, 1201 o Staff Sifil a 100 o Swyddogion Gwirfoddol.

“Ar hyn o bryd, mae 27 o ymchwiliadau i ymddygiad yn digwydd yn berthnasol i 24 o unigolion.

“Ar hyn o bryd mae 21 o achosion yn cael eu hasesu fel Camymddygiad Difrifol.

“Mae 6 yn cael eu hasesu fel Camymddygiad.

“Mae’n bwysig cydnabod fod achosion yn cael eu hasesu o’r cychwyn, ond bod yr asesiad hwn yn aml yn newid drwy gydol ymchwiliadau manwl – e.e. gall achos a aseswyd i ddechrau fel camymddwyn difrifol arwain at yr achos yn cael ei ymdrin fel camymddygiad neu fel arall, neu gall gael ei asesu nad oes achos i’w ateb unwaith mae’r mater wedi’i ymchwilio.

“Mae diswyddo ond ar gael fel cosb os ydy Panel Camymddygiad Difrifol yn canfod Camymddygiad Difrifol.

“Mae’n bwysig nodi fod Paneli Camymddygiad Difrifol yn cael eu cadeirio gan gadeirydd cymwys yn y gyfraith annibynnol, sy’n cael eu recriwtio gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

“Mae hyn yn unol â’r fframwaith rheoleiddiol penodol ac yn rhoi gwybodaeth gyfreithiol bwysig ac annibyniaeth o’r sefydliad ar gyfer penderfyniadau diswyddo pwysig.”

Rhaglen addysgol newydd

Mae’r adroddiad hefyd yn ymchwilio i fesurau i fynd i’r afael ag unrhyw adroddiadau o gamymddwyn gan swyddogion, a diogelu’r cyhoedd.

Er mwyn sicrhau y caiff adroddiadau o ymddygiad amhriodol eu trin yn briodol o fewn y sefydliad, a bod dioddefwyr yn cael cymorth, mae’r heddlu wedi datblygu Rhaglen Arweinyddiaeth Gynhwysol (ILP) pedwar diwrnod gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Durham.

Mae’n cael ei chyflwyno i holl oruchwylwyr llinell gyntaf ac ail linell, ac mae’n defnyddio ymdriniaeth o dystiolaeth er mwyn canolbwyntio ar bwysigrwydd arweinyddiaeth gynhwysol a chynorthwyol.

“Roedd troseddau David Carrick yn ffiaidd a brawychus,” meddai Amanda Blakeman.

“Yr hyn oedd yn waeth oedd ei fod mewn swydd lle’r oedd pobol yn ymddiried ynddo pan oedd yn troseddu fel hyn.

“Mae effaith ddinistriol troseddau Carrick yn mynd ymhell tu hwnt i’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan ac wedi rhoi sylw cyhoeddus unwaith eto ar blismona ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae ein cymunedau yn iawn i ddisgwyl y safonau ac ymddygiad uchaf a gan ein holl weithwyr.

“Mae sawl ffordd ddiogel o hysbysu am achosion lle mae ein gweithwyr wedi siomi’r safonau disgwyliedig ganddynt.

“I’r dioddefwyr hynny sydd ddim eisiau hysbysu’r heddlu’n uniongyrchol, gwnewch drwy sefydliadau eraill fel yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig neu’r Ganolfan Cymorth Treisio a Cham-drin Rhywiol.

“Rydym yn parhau i ymrwymo at sicrhau fod ein systemau’n effeithiol wrth ddiswyddo swyddogion sydd, yn syml, ddim yn addas i wisgo’r lifrai. Fe wnawn barhau i chwynnu’r swyddogion hynny a chael gwared ohonynt o’n heddlu.”

‘Anodd’

“Rydym yn cydnabod y gall hysbysu am unrhyw fath o droseddau o gam-drin rhywiol neu gam-drin domestig fod yn anodd,” meddai Gaynor McKeown, Prif Swyddog Gweithredol canolfan gymorth trais RASASC ac uned trais yn y cartref DASU.

“Mae hyn yn anoddach fyth mewn cyfnod lle mae cymaint o honiadau difrifol wedi’u gwneud yn erbyn y rhai hynny sydd yno i’n gwarchod ni, neu os ydy’r troseddwyr mewn swydd gyfrifol.

“Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais neu os ydych/ydynt wedi cael eich/eu cam-drin ac rydych eisiau cymorth, cyngor neu eiriolaeth, cysylltwch â’n gwasanaethau heddiw.

“Cewch gyngor a chymorth cyfrinachol hyd yn oed os ydych yn dymuno hysbysu’r heddlu am y mater. Rydym, gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn credu nad oes lle i gam-drin o fewn ein heddlu.

“Gwnawn gydweithredu gyda nhw er mwyn atal yr ymddygiad hwn a dod a throseddwyr o flaen eu gwell.”