Mae Banc Busnes Prydain yn bwriadu lansio cronfa fuddsoddi gwerth £130m yn yr hydref, fydd â’r nod o sbarduno twf busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Mae Cronfa Fuddsoddi Cymru yn un o Gronfeydd Buddsoddi’r Gwledydd a’r Rhanbarthau sy’n cael eu lansio gan Fanc Busnes Prydain, fydd yn ymrwymo i ddarparu gwerth £1.6bn o gyllid newydd i fusnesau llai yng ngwledydd Prydain.

Bydd y gronfa yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau rhwng £25,000 a £2m, a buddsoddiad ecwiti o hyd at £5m.

Drwy gynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau llai yng Nghymru, ei nod yw mynd i’r afael â’r bwlch cyllido a nodwyd.

Mae cronfeydd tebyg yn cael eu lansio yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a de-orllewin Lloegr, yn ogystal â chronfeydd dilynol ar gyfer Canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr.

Daw’r cronfeydd newydd yn dilyn llwyddiant y cronfeydd buddsoddi rhanbarthol sydd eisoes yn cael eu darparu gan Fanc Busnes Prydain, sef Cronfa Fuddsoddi Northern Powerhouse (NPIF), Cronfa Fuddsoddi Midlands Engine (MEIF), y Gronfa Cyllid Twf (Gogledd Iwerddon) a Chronfa Fuddsoddi Cernyw ac Ynysoedd Sili (CIoSIF).

Ers lansio’r cronfeydd buddsoddi presennol, mae’r Banc Busnes wedi buddsoddi mwy na £629m yng nghronfeydd NPIF, MEIF, CloSIF, a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys mwy na £963m ychwanegol o gyd-fuddsoddiad yn y sector preifat a chefnogi dros 1,825 o fusnesau llai.

‘Cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid’

“Mae’r Gronfa Fuddsoddi newydd i Gymru wedi’i chynllunio i gynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid sydd ar gael i fusnesau llai yng Nghymru,” meddai Ken Cooper, Rheolwr Gyfarwydd Atebion Menter gyda Banc Busnes Prydain.

“O ystyried bod poblogaeth busnesau llai Cymru wedi’i lledaenu dros ardal ddaearyddol eang, bydd cysylltu ag entrepreneuriaid yn rhai o’r ardaloedd mwy gwledig ac anodd eu cyrraedd yn ffocws pwysig i’r gronfa.

“Mae lefelau buddsoddiad ecwiti a benthyciadau dyledion preifat ar hyn o bryd yn is na chyfran Cymru o boblogaeth busnesau bach gwledydd Prydain, felly byddwn yn gweithio’n agos gyda’r ecosystem cyllid lleol i sicrhau bod y gronfa’n darparu cymorth i berchnogion busnes arloesol ac uchelgeisiol ledled y wlad.”

Bydd Cronfa Fuddsoddi Cymru yn gweithredu ar draws tair haen: benthyciadau llai (£25,000-£100,000), dyled (£100,000-£2m) ac ecwiti (hyd at £5m).

Cais am gynigion gan reolwyr cronfa posib

Mae Banc Busnes Prydain yn gwahodd cynigion gan reolwyr cronfa posib i weithredu Cronfa Fuddsoddi newydd i Gymru drwy eu gwefan.

Mae nhw’n disgwyl penodi rheolwyr cronfa yn haf 2023 cyn lansio’r gronfa yn yr hydref.

Banc Busnes Prydain sy’n gyfrifol am weinyddu Cronfeydd Buddsoddi’r Gwledydd a’r Rhanbarthau ar ran llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r Banc yn sefydlu cronfeydd buddsoddi mewn ardaloedd nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu gan raglen gyllido ranbarthol bresennol y Banc, cyn lansio cronfeydd buddsoddi dilynol mewn ardaloedd presennol.