Bydd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, yn cyhoeddi rhaglen cymorth allforio lawn Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24, a buddsoddiad o £4m i’w darparu, wrth annerch cynhadledd flynyddol Archwilio Allforio Cymru.

Bydd yn ystyried y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ddarparu Cynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru, a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd sydd i ddod.

Mae’r Cynllun Gweithredu Allforio yn rhan allweddol o’r Rhaglen Lywodraethu, ac yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o raglenni allforio, gan weithio gyda’r ‘eco-system allforio’ ehangach, i gefnogi busnesau ar bob cam o’u taith allforio, o:

  • ysbrydoli busnesau i allforio
  • creu gallu i allforio
  • dod o hyd i gwsmeriaid tramor; a
  • chael mynediad at farchnadoedd tramor.

Bu nifer o allforwyr llwyddiannus o Gymru – Cwmnïau Allforio Enghreifftiol Llywodraeth Cymru – yn arddangos eu taith allforio yng nghynhadledd Archwilio Allforio Cymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd allforio i dwf eu busnes.

Mae’r rhaglen Cwmnïau Allforio Enghreifftiol yn tynnu sylw at lwyddiannau mentrau bach a chanolig Cymru (BBaCh) sydd eisoes yn allforio, er mwyn ysbrydoli eraill i fanteisio ar y daith allforio.

Atlantic Service Company yn gweld llwyddiant

Un o’r busnesau hynny sydd wedi gweld llwyddiant yw Atlantic Service Company (ASC) yn y Coed Duon.

Mae’r cwmni wedi gweld twf aruthrol yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac wedi symud i safle newydd yn haf 2022.

Mae’r twf hwn wedi digwydd bron yn gyfangwbl drwy allforion ac mae’r cwmni bellach yn gwerthu i dros 50 o wledydd ar draws pob cyfandir.

Mae ASC yn parhau i annog busnesau i weithio gyda thîm allforion Llywodraeth Cymru, a bu Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru’n agor canolfan newydd y cwmni yn ffurfiol ddoe (dydd Mercher, Mawrth 8).

“Mae allforio yn hanfodol i lawer o’n busnesau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w cefnogi i ehangu a llwyddo drwy ein Cynllun Gweithredu Allforio,” meddai Vaughan Gething.

“Drwy ein Cynllun, rydym yn darparu ystod eang o gefnogaeth i fusnesau yng Nghymru i hybu twf mewn allforion yn y tymor hwy, er gwaethaf yr heriau parhaus yn yr amgylchedd masnachu byd-eang.

“Rwy’n falch o gyhoeddi’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd hwn er mwyn parhau i gefnogi busnesau Cymru i ddatblygu eu hallforion, o ystyried pwysigrwydd allforio i dwf busnesau a’r economi drwyddi draw.

“Roeddwn hefyd yn falch iawn o agor canolfan newydd Atlantic Service Company ddoe yn ffurfiol ac mae eu twf a’u llwyddiant o ran allforio yn ysbrydoliaeth gwirioneddol i fusnesau eraill ledled Cymru.

“Rwy’n falch iawn ohonynt fel un o’n Cwmnïau Allforio Enghreifftiol.

“Rwy’n annog allforwyr presennol ac allforwyr posibl i gysylltu â Thîm Allforio Llywodraeth Cymru, trwy Busnes Cymru, i weld sut y gallwn helpu eu busnesau hwy hefyd.”

Tyfu drwy allforion

Yn ôl Martin Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr Atlantic Service Company, mae’r cwmni bellach yn rhy fawr i aros yn eu cartref gwreiddiol, ddeugain mlynedd ar ôl ei sefydlu.

“Mae’r safle newydd dair gwaith yn fwy na’r cartref blaenorol ac mae ein twf wedi digwydd bron yn gyfangwbl drwy allforion,” meddai.

“Byddwn i’n argymell unrhyw gwmni yng Nghymru sy’n ystyried allforio i gysylltu â Llywodraeth Cymru.

“Fydden ni ddim wedi tyfu mor gyflym fel cwmni oni bai am eu cefnogaeth.”

Mae rhaglen allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau masnach tramor, wedi’u creu’n bennaf o amgylch sioeau masnach rhyngwladol allweddol sy’n cyd-fynd â’r sectorau allforio sy’n flaenoriaeth i Gymru.

Digwyddiadau masnach tramor

Mae’r rhaglen digwyddiadau masnach tramor newydd sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

Ebrill 25-27: JEC Paris, Ffrainc

Ebrill 18-20: MRO Americas, Atlanta, UDA

Mai 13-19: Ymweliad â Marchnad Allforio Doha, Qatar

Mehefin 3-9: Bio International Convention ac Ymweliad â Marchnad Allforio Boston, UDA

Mehefin 5-9: Money 20/20 Europe, Amsterdam, Yr Iseldiroedd

Mehefin 19-25: Sioe Awyr Paris, Ffrainc

Medi 30 – Hydref 6: ADIPEC ac Ymweliad â Marchnad Allforio Abu Dhabi, Yr Emiradau Arabaidd Unedig

Hydref 14-21: Ymweliad â Marchnad Allforio Tokyo, Siapan

Hydref 17-19: MRO Europe, Amsterdam, Yr Iseldiroedd

Tachwedd 13-16: MEDICA, Dusseldorf, Yr Almaen

Tachwedd: New Exporter Programme, Amsterdam, Yr Iseldiroedd

Tachwedd 27 – Rhagfyr 1: World Nuclear Exhibition, Paris, Ffrainc

Ionawr 27 – Chwefror 2, 2024: Arab Health ac Ymweliad â Marchnad Allforio Dubai, Yr Emiradau Arabaidd Unedig

Chwefror 24 – Mawrth 2: Ymweliad â Marchnad Allforio Sydney, Awstralia

Mawrth: GDC ac Ymweliad â Marchnad Allforio San Francisco, UDA