Aled Roberts AC
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dewis pwy fydd yn arwain y blaid yn etholiad rhanbarthol Gogledd Cymru y Cynulliad.

Aled Roberts, yr Aelod Cynulliad presennol dros y rhanbarth, sydd wedi’i ddewis fel yr ymgeisydd cyntaf yn y ras yn yr etholiadau ym mis Mai.

Yn ail mae llawfeddyg yn Ysbyty Glan Clwyd, Victor Babu; yn drydydd, cynghorydd cymuned Glan Conwy, Sarah Lesiter-Burgess ac yn bedwerydd, cynghorydd sir ar Gyngor Wrecsam, Rob Walsh.

Y Dems Rhydd v UKIP

“Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig hanes cryf o gyflawni dros bobol Gogledd Cymru,” meddai Aled Roberts AC, ar ôl cael ei ethol.

“Mae’r dewis am y bedwaredd sedd yng Ngogledd Cymru yn glir: a ydych am gael AC gweithgar o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i frwydro dros ogledd Cymru, neu UKIP sydd heb ymgyrchu yng ngogledd Cymru o gwbl y tu allan i gyfnodau etholiad.

“Rwyf wedi siarad â phleidleiswyr traddodiadol Plaid, Llafur a’r Ceidwadwyr dros y misoedd diwethaf sy’n rhoi eu hail bleidlais ranbarthol i’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i stopio UKIP.

“Byddem yn annog unrhyw un sy’n gwrthwynebu eu safbwyntiau yn llwyr i wneud yr un peth.”