Mae rhybudd i bobol Sir Ddinbych, Conwy a gogledd a dwyrain Ynys Môn fod yn wyliadwrus heddiw gan fod disgwyl tonnau mawr ar hyd yr arfordir.
Y disgwyl yw y bydd y tonnau yn taro yn gynnar y prynhawn ‘ma ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobol sy’n teithio ar hyd arfordir gogledd Cymru i gymryd gofal.
“Gall tonnau mawr effeithio ar heolydd arfordirol, promenadau ac adeiladau yn ystod y prynhawn ac rydym yn gofyn i bobol i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal, yn arbennig yn ystod adeg llanw uchel rhwng 10.30yb a 2yp,” meddai Rick Park, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd y corff.
Mae’r rhybuddion llifogydd diweddaraf i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r wefan yn cael ei ddiweddaru bob 15 munud.
Mae posib cael y wybodaeth ddiweddaraf hefyd drwy ffonio llinell Floodline ar 0345 988 1188.