Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd yn oriau mân bore dydd Sul.
Cafwyd hyd i gorff Robert Sadler, 59 oed, yn y tŷ yn Rhodfa Llanrhymni, Caerdydd ar 10 Ionawr.
Mae dynes 27 oed a gafodd ei holi ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael ei chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae teulu Robert Sadler yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol ac mae’r ymchwiliad i’w farwolaeth yn parhau.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd wedi gweld neu glywed unrhyw beth amheus yn ardal Rhodfa Llanrhymni i’w ffonio ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod *010078.