Y Preifat Gavin Williams o Gaerffili
Mae ffigurau diweddaraf y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dangos fod mwy nag un ymhob 20 o farwolaethau’r Lluoedd Arfog yn digwydd yn ystod cyfnodau hyfforddi ac ymarfer.

Daw’r ffigurau hyn ychydig ddyddiau wedi i’r Fyddin gael eu beirniadu’n llym gan Grwner Cyffredinol Wiltshire a Swindon dros farwolaeth y Preifat Gavin Williams o Hengoed, Caerffili.

Fe ddywedodd y Crwner, Alan Large, fod y Fyddin wedi methu ag adnabod nac atal cosbi answyddogol y Preifat Gavin Williams, 22 oed, a fu farw o strôc gwres ar Orffennaf 3, 2006 – un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn.

Fe ychwanegodd fod y fyddin wedi methu ag adnabod “diffygion sylfaenol yn y system ddisgyblu a chosbi.”

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos fod 131 o weithwyr milwrol wedi marw yn ystod cyfnod o hyfforddi ac ymarfer rhwng 2000 a Hydref 2015.

Roedd hyn yn gyfystyr â 5.5% o’r holl farwolaethau o fewn Lluoedd Arfog y DU yn ystod yr un cyfnod.