Heddlu Twrci'n cau ardal hanesyddol Sultanahmet yn Istanbwl
Mae o leiaf 10 o bobol wedi’u lladd mewn ffrwydrad yn Istanbwl, yn ôl awdurdodau yn Nhwrci.

Mae’n debyg fod 15 o bobol eraill wedi’u hanafu, wedi’r ffrwydrad a ddigwyddodd yn ardal Sultanahmet, yn y ddinas.

Mae Arlywydd Twrci bellach wedi cadarnhau mai hunan-fomiwr o Syria oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, ond mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i achos y ffrwydrad.

Digwyddodd y ffrwydrad yn yr ardal hanesyddol, Sultanahmet, sy’n un o brif atyniadau Istanbwl lle mae Palas Topkapi a’r Mosg i’w gweld.

Yn ôl asiantaeth newyddion Twrci, roedd o leiaf chwech o bobl o’r Almaen, un o Norwy ac un o Beriw ymhlith y rhai gafodd eu hanafu.

Mae Ysgrifennydd Tramor y DU, Philip Hammond wedi dweud bod swyddogion yn ceisio darganfod a oedd unrhyw Brydeinwyr ymhlith y rhai gafodd eu lladd.

‘Bomiwr o Syria’

Fe gadarnhaodd Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, mae hunanfomiwr o Syria achosodd y ffrwydrad.

“Dw i’n condemnio’r digwyddiad brawychol yma sydd weid digwydd yn Istanbwl, yn sgwâr Sultanahmet, ac sydd wedi’i asesu i fod yn ymosodiad gan hunan fomiwr o Syria,” meddai’r arlywydd ar deledu’r wlad.

Ychwanegodd y dirprwy Brif Weinidog, Numan Kurtulmus, fod yr hunanfomiwr yn berson 28 oed o Syria, a bod y rhan fwyaf o’r rhai a fu farw yn dramorwyr.

‘Adeiladau’n ysgwyd’

Cafodd yr heddlu a meddygon eu hanfon yno’n syth, ac mae pobl wedi’u symud o’r safle yn sgil pryderon am ffrwydrad arall.

Un a welodd y digwyddiad oedd Erdem Koroglu, sy’n gweithio mewn swyddfa gerllaw, ac fe ddywedodd: “Roedd hi’n anodd dweud pwy oedd yn fyw a phwy oedd yn farw. Roedd yr adeiladau yn ysgwyd yng ngrym y ffrwydrad.”

Mae Prif Weinidog Twrci Ahmet Davutoglu wedi cynnal cyfarfod diogelwch brys gyda gweinidogion a swyddogion eraill.

Mae Twrci wedi dioddef dau ymosodiad bom y llynedd. Bu farw mwy na 30 o bobol yn ymosodiad hunanfomio gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn nhref Suruc ar y ffin â Syria ym mis Gorffennaf.

Ym mis Hydref, digwyddodd dau ymosodiad hunanfomio tu allan i brif ddinas y wlad, Ankara, gan ladd mwy na 100 o bobol.