Mae’r corff sy’n ymchwilio  i gwynion yr heddlu wedi dechrau ymchwiliad i’r ffordd roedd Heddlu Gwent wedi trin carcharorion yn eu dalfeydd, yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau o hunan-niweidio a chymryd cyffuriau.

Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal pum ymchwiliad i ddigwyddiadau ym mis Medi a mis Tachwedd 2015 lle wnaeth pobol oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa geisio hunan-niweidio neu gymryd cyffuriau.

Cafodd tri o’r bobol hynny eu cludo i’r ysbyty o ddalfeydd Ystrad Mynach a Chasnewydd, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu’n ddifrifol.

Nid oes unrhyw un o’r carcharorion wedi gwneud cwyn ond mae’r ymchwiliad yn dod ar ôl i Heddlu Gwent gyfeirio’r mater at yr IPCC.

Bydd yr ymchwiliadau yn edrych ar sawl ffactor, gan gynnwys y canlynol:

  • A oedd yr archwiliadau a gafodd eu gwneud ar yr unigolion yn ddigonol;
  • A oedd yr asesiadau risg yn ddigonol, a’r ystyriaeth o ‘rybuddion’ a gwybodaeth yr heddlu gan staff y ddalfa;
  • Y lefel o arsylwadau a gwiriadau ar gyfer y carcharorion, gan ystyried unrhyw hanes blaenorol yn y ddalfa;
  • A oedd y penderfyniadau a wnaed gan swyddogion a staff y ddalfa tra bod y carcharorion yn eu gofal wedi bod yn unol â pholisi a hyfforddiant.

‘Pwysig ymchwilio i ddysgu gwersi’

“Mae gan yr heddlu ganllawiau helaeth ar arferion y ddalfa, gan gynnwys materion archwilio ac asesiadau risg,” meddai Jan Williams, Comisiynydd yr IPCC dros Gymru.

“Er nad oes unrhyw gwynion wedi codi, ac yn ffodus, does neb wedi cael niwed difrifol, mae’n bwysig ein bod yn ymchwilio i weld  a ellir dysgu rhywbeth a allai helpu i wneud y ddalfa mor ddiogel â phosibl, i’r carcharorion ac i staff yr heddlu yng Ngwent.”