Gwesty Novotel Cymru yn Dinard (llun: CBDC/Propaganda)
Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n aros mewn gwersyll yn Llydaw yn ystod Ewro 2016.

Fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru heddiw y bydd y tîm yn aros mewn gwesty sba Novotel Thalassa yn nhref Dinard yn ystod y gystadleuaeth, sydd yn dechrau ym mis Mehefin.

Cyn y Nadolig roedd is-reolwr Cymru Osian Roberts wedi dweud wrth Golwg bod trefniadau i aros yn y dref ar arfordir gogleddol Ffrainc yn agos at gael eu cadarnhau.

Fe fydd carfan Chris Coleman yn defnyddio cyfleusterau cyfagos CPD Dinard, ac yn teithio oddi yno ar gyfer eu tair gêm grŵp yn y twrnament.

Dinard yn ganolfan

Does dim cadarnhad eto pryd y bydd Cymru’n gadael am Ffrainc, ond mae’n debygol y bydd y garfan yn treulio tuag wythnos yn Dinard cyn eu gêm gyntaf yn erbyn Slofacia yn Bordeaux ar 11 Mehefin.

Yna fe fydd y tîm yn teithio i dref Lens ger Paris i herio Lloegr ar 16 Mehefin, cyn dychwelyd i dde Ffrainc i wynebu Rwsia yn Toulouse ar 20 Mehefin.

Os fydd Cymru’n llwyddo i gyrraedd y rownd nesaf fe fydd lleoliadau eu gemau wedyn yn dibynnu ar eu safle o fewn y grŵp, ond fe fyddai’r tîm mwy na thebyg yn dychwelyd i Dinard rhwng pob gêm.

Dywedodd CBDC bod tîm Ffrainc hefyd aros yn Dinard eleni.


Yr olygfa o'r gwesty (llun: CBDC/Propaganda)

‘Cannes y Gogledd’

Yn ôl y Gymdeithas Bêl-droed fe fydd gan westy’r tîm y “cyfleusterau sba ac adfer o’r radd flaenaf” fydd yn creu’r “awyrgylch orau posib” i dîm Chris Coleman yn ystod Ewro 2016.

Mae’r gwesty yn cynnwys canolfan ffitrwydd a phwll nofio fydd ar gael i’r chwaraewyr, ac fe fydd ganddyn nhw olygfeydd gwych o arfordir cyfagos Dinard, tref sydd wedi cael ei disgrifio gan rai fel ‘Cannes y Gogledd’.

Bydd carfan Cymru yn defnyddio cyfleusterau ymarfer Clwb Pêl-droed Dinard, sydd rhyw ddwy filltir i ffwrdd o’u gwesty, yn ystod eu hymweliad.


Un o stafelloedd y gwesty (llun: CBDC/Propaganda)

Un o stafelloedd y gwesty (llun: CBDC/Propaganda)

Cae Clwb Pel-droed Dinard ble bydd Cymru yn ymarfer (llun: CBDC/Propaganda)

Y pwll nofio yng ngwesty'r tim (llun: CBDC/Propaganda)

Y gampfa ble bydd chwaraewyr Cymru'n cael cyfle i ymarfer (llun: CBDC/Propaganda)