Liam Shephard (dde) yn brwydro am y bêl ar ei ymddangosiad cyntaf i Abertawe (llun: David Davies/PA)
Cafodd Gareth Bale ddechrau perffaith nos Sadwrn i’w gyfnod o dan y rheolwr newydd Zinedine Zidane yn Real Madrid, gan sgorio hat-tric wrth i Los Blancos ennill o 5-0 yn erbyn Deportivo la Coruna.

Er gwaethaf sôn bod y Cymro’n siomedig fod Rafa Benitez wedi cael ei ddiswyddo, roedd ei berfformiad a’r ganmoliaeth gafodd wrth gael ei eilyddio yn awgrymu bod ganddo le canolog o hyd yng nghynlluniau Zidane.

O La Liga i Loegr, ac roedd hi’n benwythnos prysur i sawl un o’r Cymry yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA wrth i dimau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth ymuno a’r gystadleuaeth.

Daeth Aaron Ramsey oddi ar y fainc i Arsenal a sgorio’u hail gôl yn dilyn symudiad tîm gwych, wrth iddo helpu’r Gunners i drechu Sunderland o 3-1.

Roedd Hal Robson-Kanu yn credu ei fod yntau wedi ennill y gêm gyda’i gôl i Reading dair munud cyn y diwedd, ond fe sgoriodd Huddersfield yn y munud olaf i sicrhau y byddai’r ornest yn cael ei hailchwarae.

Chwaraeodd Chris Gunter a Joel Lynch 90 munud yr un yn y gêm honno, ond doedd Emyr Huws ddim yn chwarae oherwydd salwch wrth i’w gyfnod o ar fenthyg yn Huddersfield agosáu at ddod i ben.

Dim Jonny a Harry

Cafodd Andy King gêm dda i Gaerlŷr wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn Spurs, a adawodd Ben Davies ar y fainc.

Dechreuodd Wayne Hennessey a Joe Ledley i Crystal Palace wrth iddyn nhw drechu Southampton o 2-1, ond doedd dim lle i Jonny Williams ar y fainc hyd yn oed.

Doedd dim lle chwaith i Harry Wilson yn nhîm Lerpwl, er i Jurgen Klopp enwi carfan ifanc ar gyfer y trip i Gaerwysg.

Di-sgôr oedd hi pan gafodd James Chester ei eilyddio wedi 63 munud i West Brom, ond fe orffennodd hi’n 2-2 rhyngddyn nhw a Bristol City yn y diwedd gyda Wes Burns yn dod oddi ar fainc yr ymwelwyr a chyfrannu at un o’u goliau.

Sicrhaodd Burnley eu lle yn y rownd nesaf gyda buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Middlesbrough, gyda rhediad a chroesiad hyfryd Sam Vokes yn creu gôl gyntaf Burnley.

Bournemouth gipiodd y fuddugoliaeth yn Birmingham o 2-1, gyda David Cotterill a Shaun Macdonald yn wynebu’i gilydd a Cotterill yn creu unig gôl ei dîm.

Ond fe fydd Simon Church ac MK Dons yn gorfod ailchwarae eu gêm nhw yn erbyn Northampton wedi iddi orffen yn 2-2.

Cyfle i Shephard

Siom gafodd Liam Shephard ar ei ymddangosiad cyntaf i Abertawe wrth iddyn nhw gael eu synnu gan Rydychen, er na chwaraeodd cefnwr dde dan-21 Cymru yn rhy ddrwg.

Roedd Wycombe yn erbyn Aston Villa yn ornest arall rhwng clwb o Gynghrair Dau ac un o’r Uwch Gynghrair, ac fe lwyddodd Wycombe i sicrhau ail ornest ar ôl cipio gêm gyfartal diolch i gic o’r smotyn cyn-amddiffynnwr dan-21 Cymru Joe Jacobson.

Aros ar y fainc wnaeth Declan John fodd bynnag wrth iddo wylio Caerdydd yn colli gartref o 1-0 yn erbyn yr Amwythig mewn canlyniad cywilyddus arall i un o glybiau Cymru.

Fe chwaraeodd James Collins a Tom Bradshaw wrth i’w clybiau nhw sicrhau lle yn y rownd nesaf.

Ond doedd ymddangosiadau Morgan Fox, Andrew Crofts, Michael Doughty, Jazz Richards, Paul Dummett a Dave Edwards ddim yn ddigon i atal eu timau nhw rhag mynd allan o’r gystadleuaeth.

Yn yr Alban fe gadwodd Owain Fôn Williams lechen lân wrth i Inverness gael gêm gyfartal â Stirling, ond fe gollodd Danny Ward ac Aberdeen o 1-0 yn erbyn Hearts.

Mae’n bosib mai hwnnw oedd ymddangosiad olaf Ward i Aberdeen y tymor yma fodd bynnag, gan fod Lerpwl nawr wedi’i alw nôl o’i gyfnod ar fenthyg rhag ofn bod ei angen arnynt yn y gêm gynghrair yn erbyn Arsenal nos Fercher.

Seren yr wythnos – Gareth Bale. Bywyd ar ôl Benitez yn mynd yn dda iddo hyd yn hyn!

Siom yr wythnos – Harry Wilson. Bechod na chafodd gêm o ystyried bod sawl un o sêr ifanc eraill Lerpwl wedi cael y cyfle.