Robert Croft
Fe fydd un o hyfforddwyr Criced Morgannwg yn cael ei drosglwyddo i dîm hyfforddi Lloegr am 12 diwrnod, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cyfres undydd Lloegr yn Ne Affrica.
“Mae hyn yn gyfle gwych ac yn rhywbeth dw i’n edrych ymlaen ato,” meddai Robert Croft, sy’n disgwyl cwblhau ei gymhwyster Hyfforddi ECB Lefel 4 eleni.
“Dw i wedi cydweithio ag Andy Flower wrth ddatblygu’r garfan yn Sri Lanca, ond y tro hwn fe fyddwn yn gweithio gyda’r garfan lawn ar gyfer De Affrica. Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod â dau hyfforddwr anhygoel sydd â dulliau gwahanol, sef Trevor Bayliss a Paul Farbrace.”
“Mae ’na hyder gyda’r chwaraewyr yn nhîm Lloegr ac mae cydbwysedd da o ran oedran a phrofiad,” ychwanegodd.
Fe fydd Lloegr yn dechrau gyda gêm baratoadol yn Kimberley ar Ionawr 30. Bydd y gyfres undydd yn dechrau yn Bloemfontein, De Affrica ar Chwefror 3.
Fe wnaeth Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris, groesawu’r secondiad gan ddweud, “Rydym wrth ein bodd y bydd Robert yn medru datblygu ar ei wybodaeth a’i sgiliau hyfforddi gyda Lloegr a bydd ei brofiad fel troellwr yn rhoi cymorth gwerthfawr i garfan Lloegr.”