Roedd Devils Caerdydd yn benderfynol o ddifetha’r parti i gapten Coventry Blaze, Ashley Tait yn ei 700fed gêm i’r Saeson, a dyna’n union wnaethon nhw wrth ennill o 5-2 yn y Skydome yng nghanolbarth Lloegr nos Sul.

Sgoriodd Tait un o ddwy gôl y Saeson wedi 13 o funudau i roi’r Panthers ar y blaen, ond doedd honno ddim yn ddigon wrth i’r Cymry ymateb o fewn dwy funud drwy Joey Haddad.

Aeth y Devils ar y blaen diolch i gôl gan Zach Hervato toc wedi deg munud o’r ail gyfnod, ond unwaith eto fe darodd y Panthers yn ôl drwy Drew Fisher gyda phum munud yn weddill i unioni’r sgôr a sicrhau cyfnod olaf cyffrous.

Ond y Devils aeth â hi yn y pen draw gyda dwy gôl o fewn tair munud ar ddechrau’r trydydd cyfnod, y gyntaf i Guillaume Doucet a’r ail i Jake Morissette i selio’r fuddugoliaeth a chadw’r Devils ar frig y gynghrair.

Mae sylw’r Devils yn troi at y gwpan yr wythnos hon wrth iddyn nhw deithio i Dundee nos Fercher cyn mynd ben-ben yn y gynghrair â’r Panthers oddi cartref yn Nottingham nos Sadwrn a Chaeredin yng Nghaerdydd nos Sul y penwythnos nesaf.