Caerdydd 0–1 Yr Amwythig                                                            

Roedd Caerdydd yn hynod siomedig wrth i’r Amwythig eu curo yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr nos Sul.

Cyn chwaraewr Wrecsam, Andy Mangan, sgoriodd unig gôl y gêm toc wedi’r awr a doedd torf fechan Stadiwm y Ddinas ddim yn hapus ar y chwiban olaf.

Daeth cyfle cyntaf Caerdydd wedi chwarter awr ond methodd yr amddiffynnwr canol, Bruno Ecuele Manga, â tharo’r targed o ddeg llath.

Dylai Alex Revell fod wedi rhoi’r Adar Gleision ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner ond gwnaeth y blaenwr lanast llwyr o bethau wedi i Mark Halstead wyro ergyd Federico Macheda yn syth i’w lwybr.

Tarodd Sammy Ameobi’r postyn o ochr y cwrt cosbi yn fuan wedi hynny hefyd ond digon di fflach oedd perfformiad hanner cyntaf Caerdydd yn erbyn tîm o’r Adran Gyntaf.

Roeddynt hyd yn oed yn waeth wedi’r egwyl a chawsant eu cosbi toc wedi’r awr pan beniodd Mangan groesiad cywir Scott Vernon heibio i Simon Moore i roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Cafodd Macheda gyfle gwych i unioni pethau i’r Cymry ddeunaw munud o’r diwedd ond daeth Halstead allan yn gyflym i’w atal.

Daeth Jordan Clark yn agos yn y pen arall ond roedd un gôl yn ddigon i’r Amwything yn y diwedd wrth i Ecuele Manga benio cyfle hwyr heibio’r postyn.

.

Caerdydd

Tîm: Moore, Fabio (Noone 74′), Ecuele Manga, Tamas, Malone, Ameobi, Dikgacoi (Kennedy 63′), O’Keefe, Whittingham, Revell (Mason 79′), Macheda

.

Yr Amwythig

Tîm: Halstead, Gerrard, Whitbread, Knight-Percival, Grimmer, Clark, Black, Cole, Sadler, Vernon (Grandison 83′), Mangan (Akpa-Akpro 83′)

Gôl: Mangan 62’

.

Torf: 4,782