Llys y Goron Merthyr Tudful
Mae beiciwr modur a darodd bachgen ifanc yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf ym mis Medi’r llynedd wedi’i garcharu am 15 mis.
Yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw fe blediodd y beiciwr modur, Matthew Llewellyn, 27 oed yn euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder wrth beidio â stopio ar ôl taro’r bachgen, ac i gyhuddiadau eraill.
Roedd y bachgen 10 oed, Tye Hawkins yn croesi’r ffordd gyda’i fam pan gafodd ei daro gan y beic modur 600cc.
Fe ddioddefodd Tye Hawkins, anafiadau difrifol. Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, a bu’n rhaid iddo dreulio 17 diwrnod mewn uned gofal dwys. Mae disgwyl y bydd yn rhaid iddo dderbyn triniaeth am weddill ei fywyd.
Fe glywodd y llys fod Matthew Llewellyn wedi gyrru am 11 milltir cyn cael gwared ar y beic a gwadu mai ef oedd yn gyrru.
Daeth yr Heddlu o hyd i dystiolaeth camera cylch cyfyng ohono’n gyrru’r beic mewn gorsafoedd petrol ger Pen-y-bont ar Ogwr a Thonyrefail.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf ar 3 Medi y llynedd.