Lee Fox
Mae teuluoedd dau ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd dros y penwythnos wedi talu teyrnged iddyn nhw.

Bu farw Lee Fox, 35, a Jordon Thomas, 19, y ddau o ardal Y Fenni yn y fan a’r lle wedi’r gwrthdrawiad ar y B4598 ger Y Fenni toc cyn 11 o’r gloch nos Wener.

“O hyd yn ein calonnau”

Dywedodd Kim Russell, partner Lee Fox ei fod yn “bartner, tad, llystad a ffrind cariadus i lawer.”

“Fe wnes di gyffwrdd calonnau pawb wnes di gwrdd, bob amser yn barod i estyn llaw a jôc. Efallai dy fod wedi mynd o’n golwg ond byddi di o hyd yn ein calonnau,” meddai.


Jordon Thomas
Ac yn eu teyrngedau nhw, dywedodd rhieni Jordon, Gary a Michaela Thomas ei fod yn “fachgen cyfeillgar, gweithgar a chariadus.”

“Byddwn yn gweld ei eisiau am byth a bydd yn ein calonnau bob amser,” meddan nhw.

Arestio dau ddyn

Mae dau ddyn, 20 a 24 oed, o’r Fenni, a gafodd eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad wedi’u harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu, wrth i’r ymchwiliadau barhau.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â’r gwrthdrawiad rhwng y Toyota Celica glas a’r Citroen C2 coch i ffonio 101 gan ddyfynnu’r rhif 504 08/01/16.