Archesgob Caergaint, Justin Welby
Mae Archesgob Caergaint wedi cyfaddef na all rwystro arweinwyr yr eglwys rhag gadael y trafodaethau ymysg adroddiadau am rwygiadau o fewn yr Eglwys Anglicanaidd ynglŷn â chyfunrywiaeth.

Fe ddywedodd Archesgob Caergaint, Justin Welby, ei fod yn gobeithio cyrraedd “cymod” yr wythnos hon wrth i archesgobion Anglicanaidd gyfarfod.

Er hyn, mae disgwyl i rai o gynrychiolwyr o Affrica dynnu’n ôl o’r trafodaethau, ac mae pryder y gallai’r rhwygiadau ddatblygu’n rhai parhaol.

“Dyw cymod ddim bob amser yn golygu cytundeb, mewn gwirionedd pur anaml y mae. Mae’n golygu dod o hyd i ffyrdd i anghytuno’n dda,” meddai Justin Welby wrth raglen BBC Radio 4.

“Does dim y medra’ i wneud i atal pobl os byddan nhw’n penderfynu gadael yr ystafell. Ni fydd hynny’n rhwygo’r cymundeb.”

‘Dim trychineb – ond methiant’

Mae Anglicaniaid ar draws y byd wedi’u rhannu ar y mater o gyfunrywiaeth ers i’r Eglwys Esgobol Ryddfrydol yn America gysegru’r Canon Gene Robinson, sy’n hoyw, fel esgob New Hampshire yn 2003.

Fe esboniodd Justin Welby na fyddai “rhwyg yn drychineb, mae Duw yn fwy na’n methiannau, ond fe fyddai’n fethiant.”

Fe fynegodd ei bryder pe na byddai’r Eglwys yn medru gosod esiampl i’r byd gan arddangos sut i garu eraill.

Mae’r Archesgob wedi galw ar wledydd i groesawu ffoaduriaid, ond wrth gyfeirio at y troseddau rhyw diweddar yn ninas Cologne yn yr Almaen, fe ddywedodd fod angen “golwg glir.”

“Mae’n dangos fod y broses o groesawu pobl yn un cymhleth iawn y mae’n rhaid ei hystyried yn drwyadl gan ddelio â hi mewn ffordd soffistigedig, ddeallus a gyda golwg glir.

“Os bydd y math yma o bobl sy’n treisio merched yn Cologne yn troi allan i fod o dramor, yna fe fyddan nhw’n cael eu halltudio.”