Mae Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân wedi ailagor heddiw ar gyfer ei disgyblion yn dilyn tân yn yr adeilad ar ddydd Calan.
Ond, fe fydd yn rhaid i blant yr adran feithrin aros tan Ionawr 25 cyn dychwelyd oherwydd difrod i’r feithrinfa.
Fe ddigwyddodd y tân yn yr ysgol yn ystod oriau mân y bore ar Ionawr 1. Mae chwech o bobl wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad a’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i Heddlu Gwent barhau â’u hymchwiliadau.
Mae mwy na 500 o blant yn mynychu Ysgol Gynradd Coed Efa, gan gynnwys 200 yn mynychu’r adran feithrin.
‘Aflonyddgar a thrallodus’
Fe esboniodd Pennaeth Gweithredol Coed Efa, Gill Ellis, fod yr ysgol “yn parhau yn fwrlwm o weithgareddau, gyda staff, swyddogion y cyngor a chontractwyr yn gweithio’n ddyfal i sicrhau bod y disgyblion yn dychwelyd i’w dosbarthiadau.”
Fe ychwanegodd fod y staff yn ysgrifennu rhestrau o’r holl offer a ddinistriwyd ac “mae adnoddau’n cael eu harchebu’n ddyddiol a chânt eu dosbarthu i’r ysgol cyn gynted ag y bo modd.”
“Rwy’n deall bod hyn wedi bod yn gyfnod eithriadol o aflonyddgar a thrallodus i rieni yn ogystal â disgyblion, a rhaid i mi ddiolch i bawb am eu dealltwriaeth a’u hamynedd dros yr wythnos ddiwethaf.”
Fe ychwanegodd fod generadur yn darparu pŵer i adeilad yr ysgol iau, a bod ffos yn cael ei chloddio i adfer y prif gyflenwad.
“Mae’r ysgol yn gwneud trefniadau arlwyo fel y bydd pob disgybl sy’n dymuno cael prydau poeth neu frechdanau yn gallu gwneud hynny ar y safle,” ychwanegodd Gill Ellis.
Fe ddywedodd y cynghorydd David Yeowell fod trefniadau ar gyfer dymchwel safle’r tân a symud y peryglon yn ddiogel yn mynd rhagddynt. “Mae’r dosbarthiadau dros dro yn cael eu dosbarthu ddydd Gwener nesaf, ac maent ar hyn o bryd wrthi’n paratoi’r sylfeini.”