Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad ar yr M4 neithiwr ar ôl i ddarn concrit mawr gael ei ollwng o bont uwchben y ffordd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe wnaeth y concrit fwrw to lori ac achosodd ddifrod i bedwar cerbyd arall ar ôl i ddarnau ohono eu bwrw.

Yn ôl yr heddlu, mae’n ffodus iawn na chafodd unrhyw un eu hanafu, fodd bynnag gall y difrod i’r cerbydau gostio miloedd o bunnoedd.

Gollyngwyd y bloc o’r bont sy’n cysylltu â ffordd osgoi Sarn ar yr A4063 a Lôn Pen-y-cae ychydig cyn 8yh nos Fercher, 6 Ionawr.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw dystion i’w  ffonio ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.