Mae pennaeth Marks & Spencer wedi dweud y bydd yn ymddeol ar ôl chwe blynedd wrth y llyw yn dilyn perfformiad gwael o ran gwerthiant dillad merched dros y Nadolig.

Steve Rowe, pennaeth busnes nwyddau cyffredinol y cwmni fydd yn olynu  Marc Bolland pan fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd ym mis Ebrill.

Yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig, fe welodd M&S gwymp o 5.8% yn ei werthiant cyffredinol.

Y tywydd cynnes anarferol a diffyg argaeledd stoc oedd yn cael y bai am y ffigurau gwael yng ngwerthiant y cwmni.

Dywedodd Marc Bolland ei fod wedi bod yn “fraint i arwain un o gwmnïau mwyaf eiconig Prydain.”

Er ei fod yn cyfaddef bod gwerthiant dillad y cwmni wedi bod yn “siomedig” dros gyfnod yr ŵyl, mae’r cwmni wedi dweud ei fod yn gwneud yn well nag erioed yn ei adran fwyd, gyda chynnydd o 0.4% yn ei werthiant.