George Osborne
Fe fydd George Osborne yn rhybuddio am “gyfuniad peryglus” o fygythiadau i economi’r DU heddiw yn ystod ymweliad a Chaerdydd.

Mae disgwyl i’r Canghellor gyhuddo’r gwrthbleidiau o “laesu dwylo” ynglŷn â thwf yr economi gan gyfeirio at y tensiynau yn y Dwyrain Canol, economi China’n arafu a phrisiau nwyddau, fel olew, yn gostwng.

Wrth gyfeirio at Lafur, bydd yn awgrymu y gallai’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn gymryd “cam yn ôl” os yw gwleidyddion yn dychwelyd at “yr hen arferion gwael o wario biliynau o bunnau ar wariant cyhoeddus.”

Mewn araith yng Nghaerdydd, mae disgwyl i George Osborne ddweud: “Mae unrhyw un sy’n meddwl bod y gwaith wedi’i gwblhau o ran economi Prydain yn gwneud camgymeriad dybryd.”

Yr unig ddewis i Brydain, meddai, yw parhau “ar y trywydd cywir.”

Mae hefyd wedi rhybuddio bod yn rhaid i’r DU baratoi ar gyfer cynnydd mewn cyfraddau llog sydd wedi bod ar eu lefel isaf ers 2009. Ond fe bwysleisiodd George Osborne mai mater i Fanc Lloegr fyddai hynny ac y byddai’n “hollol amhriodol” iddo roi pwysau ar y llywodraethwr Mark Carney.

Ond mae disgwyl i’r Canghellor gynnig cymorth Llywodraeth y DU i gefnogi datblygiad economaidd yng Nghaerdydd gan ddweud y bydd yn “trawsnewid yr ardal” fel gwnaeth datblygiad Bae Caerdydd yn y 90au.

Mae George Osborne wedi dweud ei fod yn awyddus i arwyddo cytundeb cyn iddo gyhoeddi ei Gyllideb ym mis Mawrth.

‘Peryglu popeth’

Wrth ymateb i’w araith, dywedodd Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol bod toriadau llym y Canghellor yn “berygl ynddo’i hunain”.

“Mae Osborne yn son am bwysigrwydd sefydlogrwydd economaidd ac eto ei Lywodraeth yw’r un sy’n peryglu popeth drwy eu diffyg eglurdeb ynglŷn â’n dyfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae angen buddsoddiad yn ein hisadeiledd, buddsoddiad yn ei busnesau bach, ac mae angen buddsoddiad yn ein talent ifanc, dyma sut y gallwn ni adeiladu sail gadarn i wynebu’r heriau byd eang yma,” meddai.

Bydd y Canghellor yn annerch arweinwyr busnes yng Nghaerdydd.