Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dod i’r casgliad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â chydymffurfio’n llawn â’i gynllun iaith.
Penderfynodd Meri Huws gynnal ymchwiliad dan adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ar ôl derbyn cwyn gan deulu am brofiadau iaith plentyn.
Dywedodd y teulu na chafodd y plentyn asesiad gwybyddol llawn yn y Gymraeg, er i’r plentyn ofyn yn benodol am hynny ar fwy nag un achlysur gan ddweud y byddai’n ffafrio siarad Cymraeg.
Er bod y plentyn a’r Seicolegydd Cynorthwyol oedd yn cynnal yr asesiad yn siarad Cymraeg, ni chafodd yr asesiad ei gynnal yn y Gymraeg gan mai asesiadau sy’n cael eu cynnal yn Saesneg yw’r unig rai y mae modd eu dilysu.
Mewn adroddiad ymchwiliad statudol i weithrediad cynllun iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd mae Comisiynydd y Gymraeg yn nodi fod rhai pethau y tu hwnt i reolaeth y sefydliad, gan nad oedd yr asesiad dan sylw ar gael yn y Gymraeg.
Asesiad ddim ar gael yn y Gymraeg
Yr asesiad dan sylw yn yr ymchwiliad oedd y ‘Wechsler Intelligence Scales for Children’, sy’n cael ei ddefnyddio ledled y byd er mwyn asesu gallu gwybyddol plant a phobl ifanc rhwng 6 a 18 oed.
Mae’r asesiad yn rhoi syniad i’r aseswr o allu cyffredinol y plentyn neu berson ifanc ac yn darparu syniad o lefelau gallu mewn perthynas ag agweddau penodol ac allweddol o ddeallusrwydd.
Er nad yw ar gael yn y Gymraeg, mae’r asesiad yma wedi ei gyfieithu neu wedi ei addasu i nifer o ieithoedd eraill gan gynnwys Sbaeneg, Portiwgaleg (Portiwgal a Brasil), Norwyeg, Swedeg, Ffinneg, Ffrangeg (Ffrainc a Chanada), Almaeneg (Yr Almaen, Awstria a Swistir) a phedair fersiwn Saesneg.
‘Plentyn wedi’i drin yn llai ffafriol’
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn
rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, ond mae’r achos hwn yn amlygu’r ffaith nad yw’r statws hwnnw bob amser yn cael ei adlewyrchu ym mhrofiadau pobl a phlant.
“Mae’n amlwg, felly, nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol a bod angen arweiniad er mwyn gallu cynnal asesiadau pwysig fel hyn yn Gymraeg.”
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Wrth ymchwilio i’r achos yma roedd hi’n amlwg i mi bod y plentyn wedi cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd anallu’r sefydliad i gynnal asesiad yn y Gymraeg. Roedd pryderon gan y teulu hefyd ynghylch effaith hyn ar anghenion lles y plentyn.”
‘Cydweithio â sefydliadau eraill’
Daeth ymchwiliad y Comisiynydd i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gweithredu dau gymal o’i gynllun iaith.
Daw’r adroddiad i’r casgliad hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd yn gallu cyflawni un cymal pellach.
Mae’r cymalau hyn yn ymwneud â chynnig gwasanaethau yn newis iaith cleifion a chynnig yr un safon o wasanaethau yn y ddwy iaith.
Er i’r Comisiynydd gasglu bod y corff wedi methu â chydymffurfio’n llawn â’i gynllun iaith, mae’n nodi hefyd fod rhai pethau y tu hwnt i reolaeth y sefydliad, gan nad oedd yr asesiad dan sylw ar gael yn y Gymraeg.
Yn ei hadroddiad, mae’r Comisiynydd yn gwneud un argymhelliad i’r Bwrdd Iechyd, sef i gydweithio â sefydliadau eraill i adnabod pa asesiadau a theclynnau eraill nad ydynt ar gael yn Gymraeg.
Llywodraeth Cymru
Yn ychwanegol, ysgrifennodd y Comisiynydd at y Gweinidog Iechyd yn nodi ei bod o’r farn y dylai’r Llywodraeth gydweithio â sefydliadau iechyd i adnabod y bylchau mewn asesiadau Cymraeg ac arwain ar brosiect i safoni asesiadau gwybyddol Cymraeg.