Mae adroddiadau’n awgrymu bod cyn-fowliwr cyflym Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Ynysygerwn a Swydd Sussex, Matthew Hobden wedi syrthio i’w farwolaeth tra roedd e’n aros ar ystad yn yr Alban ar gyfer y flwyddyn newydd.

Daeth cadarnhad nos Sadwrn fod y bowliwr cyflym, fu’n chwarae i Swydd Sussex ers dau dymor, wedi marw’n 22 oed.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar wefan Clwb Criced Swydd Sussex.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan yr heddlu yn Dalvey House yn Sir Moray.

Mae lle i gredu bod Hobden a’i ffrindiau wedi dringo i ben to’r adeilad a’i fod yntau wedi mynd i gysgu, ac wedi syrthio’n fuan ar ôl dihuno.

Ond dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae’r achos wedi’i drosglwyddo i’r awdurdodau yn yr Alban.

Fe fu’n chwarae i dîm cynta’r sir ers 2014.

Gwnaeth ei ymddangosiad dosbarth cyntaf mewn criced yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton.

Cafodd ei enwi yng ngharfan Rhaglen Berfformio Potensial Lloegr ar gyfer taith i Dde Affrica fis nesaf, lle byddai wedi bod yn helpu’r brif garfan yn eu paratoadau ar gyfer cyfres undydd ryngwladol 50 pelawd.

Chwaraeodd yr olaf o’i 18 o gemau i Swydd Sussex fis Awst diwethaf.

Yn fyfyriwr, aeth i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, lle graddiodd mewn Busnes a Chyllid, ac fe gynrychiolodd dîm criced y brifysgol rhwng 2011 a 2014.

Fe chwaraeodd i Glwb Criced Ynysygerwn yn Uwch Gynghrair De Cymru yn 2013.

Ar eu safle Twitter, dywedodd y clwb: “Mae pawb yn Ynysygerwn yn drist o glywed y newyddion am Matt Hobden o Sussex CCC. Rydym yn cydymdeimlo gyda’i deulu.”