Mae’r cyn-gricedwr Tom Allin, a gynrychiolodd Brifysgol Fetropolitan Caerdydd cyn mynd yn broffesiynol gyda Swydd Warwick, wedi marw’n 28 oed.

Dyma’r ail waith yr wythnos hon y mae’r brifysgol wedi colli un o’u cricedwyr, yn dilyn marwolaeth Matthew Hobden, bowliwr cyflym Swydd Sussex, ddechrau’r wythnos.

Chwaraeodd Allin i dîm Prifysgol Fetropolitan Caerdydd tra ei fod yn fyfyriwr yno rhwng 2008 a 2010.

Er bod Allin wedi treulio chwe thymor yn Edgbaston, dim ond dwy gêm y chwaraeodd yng nghrys Swydd Warwick – unwaith yn y Bencampwriaeth ac unwaith mewn gornest undydd.

Gadawodd y sir yn 2013, ac ymuno â Dyfnaint lle mae ei dad, Tony – cyn-droellwr llaw chwith Morgannwg – yn chwarae.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Clwb Criced Swydd Warwick: “Mae pawb yn Edgbaston yn drist ofnadwy o glywed y newyddion.

“Roedd Tom yn aelod eithriadol o boblogaidd o’r garfan broffesiynol yn ystod ei chwe blynedd gyda’r sir.”

Cefndir

Daeth cadarnhad nos Fercher fod Tom Allin wedi syrthio i’w farwolaeth oddi ar bont dros afon Torridge yn Nyfnaint nos Lun.

Cafodd driniaeth gan barafeddygon ar ôl i aelodau’r cyhoedd ei weld yn syrthio, ond fe fu farw yn y fan a’r lle.

Dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.