Hugh Morris, Prif Weithredwr/Cyfarwyddwr Criced Morgannwg
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi dechrau chwilio am olynydd i’r cyn-Brif Hyfforddwr, Toby Radford a adawodd y sir ym mis Rhagfyr.
Roedd cryn ddyfalu am natur y swydd newydd, gyda rhai yn awgrymu y gallai’r clwb fod wedi penderfynu newid strwythur y tîm hyfforddi.
Byddai hynny wedi golygu bod y Prif Weithredwr, Hugh Morris yn trosglwyddo’i gyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Criced i’r sawl sy’n cael ei benodi.
Ond wedi cyhoeddi’r hysbyseb, fe ddaeth i’r amlwg na fydd newid i’r strwythur wedi’r cyfan, ac y bydd y Prif Hyfforddwr newydd yn parhau i fod yn atebol i Hugh Morris yn rhinwedd ei ddwy swydd.
Bydd cyfrifoldebau’r Prif Hyfforddwr newydd yn cynnwys dewis y tîm cyntaf a threfnu cytundebau’r chwaraewyr.
Mae lle i gredu bod nifer o ymgeiswyr mewnol ac allanol eisoes wedi mynegi diddordeb yn y swydd.
Mae’r is-hyfforddwr Robert Croft yn paratoi’r garfan ar gyfer y tymor newydd yn y cyfamser.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 20, ac fe fydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yr wythnos ganlynol.