Daniel Whiteley
Mae hwyliwr o Fangor wedi ennill medal efydd wrth gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Hwylio Ieuenctid y Byd ym Malaysia.

Daeth Daniel Whiteley yn drydydd yn y dosbarth Laser Radial yn y bencampwriaeth yn Langkawi ym Malaysia ar Ionawr 3.

Wrth i’r gystadleuaeth ddirwyn i ben, neidiodd Whiteley o’r pumed safle i gipio’r fedal efydd ar y funud olaf.

Mae cyn-enillwyr y gystadleuaeth yn cynnwys y pencampwyr Olympaidd Ben Ainslie, Sarah Ayton ac Iain Percy.

Yn dilyn ei lwyddiant, dywedodd Daniel Whiteley: “Es i allan ac ennill y ras felly dwi’n credu bod hynny wedi helpu wrth i bopeth ddisgyn i’w le efo’r llanc o’r Ffindir a’r Americanwr felly dw i’n hapus iawn efo sut aeth y diwrnod.

“Mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig iawn. Prif hwylwyr y byd o bob gwlad sydd ynddi ac mae’r bwrdd arweinwyr gwir yn dangos hynny.”

“Mae [pencampwriaeth] ieuenctid y byd yn wych, gwnes i fwynhau’n fawr.

“Ges i gyfle i weld fy ffrindiau o bob dosbarth. Ro’n i’n arfer hwylio 420 a ches i gyfle i weld yr hen wynebau o amryw wledydd a’m gwlad fy hun.”

Dywedodd Mark Nicholls o’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol: “Mae hyn yn ganlyniad gwych i Daniel i gael medal ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd, ac yn gyflawniad aruthrol.”