Greg Dyke
Mae cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr Greg Dyke wedi dweud y “byddwn ni i gyd yn saethu’n hunain” os nad ydyn nhw’n llwyddo i ddianc o grŵp Cymru yn Ewro 2016.
Fe fydd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd eleni ym Mhencampwriaethau Ewrop, sydd yn dechrau yn Ffrainc ym mis Mehefin, mewn grŵp sydd hefyd yn cynnwys Rwsia a Slofacia.
Gydag o leiaf dau o’r pedwar tîm yn mynd drwyddo o’r grŵp, yn ogystal â’r tîm sy’n drydydd o bosib, mae’r wasg Brydeinig a’r bwcis eisoes wedi darogan y bydd Lloegr yn siŵr o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.
Ond mae sylwadau diweddaraf Greg Dyke wedi cynyddu’r pwysau ar y tîm hyd yn oed yn fwy, a hynny o gofio bod Lloegr yn aml wedi siomi mewn cystadlaethau rhyngwladol pan mae’r disgwyliadau yn uchel.
Dim pwysau
Fydd y pwysau ar ysgwyddau Cymru ddim hanner mor drwm, gyda thîm Chris Coleman eisoes wedi cyflawni gwyrthiau wrth gyrraedd eu twrnament rhyngwladol fawr gyntaf ers 58 mlynedd.
Fe fyddan nhw hefyd yn dawel hyderus o gyrraedd y rownd nesaf, fodd bynnag, ar ôl llwyddo i osgoi rhai o dimau mwyaf Ewrop yn eu grŵp a dangos yn ystod yr ymgyrch ragbrofol eu bod yn gallu trechu timau fel Gwlad Belg.
Dyna yw’r targed mae Coleman wedi’i osod i’w dîm, gan ddweud y gallan nhw guro unrhyw un ar eu dydd.
Trychineb i Loegr
Un peth y bydd yn rhaid i dîm Cymru – a’r cefnogwyr – ddod i arfer â hi dros y misoedd nesaf fodd bynnag fydd hyder y Saeson wrth edrych ymlaen at grŵp nad ydyn nhw’n ei ystyried fel un mor heriol â hynny.
Ac fe gyfaddefodd Greg Dyke y byddai’n drychineb petai Cymru, Rwsia a Slofacia yn llwyddo i achub y blaen ar Loegr.
“Dw i’n meddwl y byddwn ni i gyd yn saethu’n hunain os na ddown ni allan o’r grŵp,” meddai cadeirydd yr FA.
“Ond nid dyna sydd yn diffinio llwyddiant i mi. Allai ddim dweud – byddai’n annheg, oherwydd y trafodaethau dw i wedi’i gael â Roy [Hodgson, rheolwr Lloegr] i ddweud yn gyhoeddus beth rydyn ni’n diffinio llwyddiant.
“Ond yn amlwg mae’n rhaid i ni ddod allan o’r grŵp. Os na wnawn ni hynny wedyn mae hynny’n newyddion drwg iawn i bêl-droed Lloegr.”