Kenwyne Jones yn ei ddyddiau cynnar gyda Southampton
Mae Kenwyne Jones wedi talu teyrnged i’r “cefnogwyr mwyaf angerddol yng Nghymru” ar ôl cadarnhau ei fod yn symud i’r Dwyrain Canol.
Fe gwblhaodd yr ymosodwr ei drosglwyddiad ar fenthyg i glwb Al Jazira nos Fawrth, gan ddod a’i gyfnod o ddwy flynedd yng Nghaerdydd i ben.
Mae cytundeb y chwaraewr 31 oed gyda’r Adar Gleision yn dod i ben yn yr haf, ac wrth ffarwelio mewn neges ar ei dudalen Facebook fe awgrymodd y gŵr o Drinidad na fyddai’n dychwelyd.
“Rydw i’n werthfawrogol iawn o’r cyfle i fod wedi gweithio gyda thîm gwych yng Nghaerdydd, a chwarae o flaen rhai o’r cefnogwyr mwyaf angerddol yng Nghymru,” meddai cyn-ymosodwr Stoke, Sunderland a Southampton.
“Cafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar sail y cyfleoedd gafodd eu cynnig i mi.
“Hoffwn ddiolch i staff a chwaraewyr yr Adar Gleision – rydw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.
“Hoffwn ddiolch hefyd i gefnogwyr gwych yr Adar Gleision. Mae hi wedi bod yn bleser, a wnâi fyth eich anghofio chi.”