Gareth Bale
Mae cyn-reolwr Cymru John Toshack wedi wfftio awgrymiadau y bydd Gareth Bale yn awyddus i adael Real Madrid ar ôl i’r rheolwr Rafa Benitez gael y sac.

Cafodd Benitez ei ddiswyddo gan y clwb neithiwr, gyda chyn-seren y tîm Zinedine Zidane bellach wedi cael ei benodi i’w olynu.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg Brydeinig mae Bale yn enwedig wedi cael ei siomi gan ymadawiad Benitez, gan fod ganddo berthynas dda â’r Sbaenwr.

Ond mynnodd Toshack, sydd wedi treulio dau gyfnod fel rheolwr Real Madrid ei hun yn y gorffennol, na fyddai’r newid yn effeithio ar y Cymro.

“Dw i ddim yn gweld hwn yn effeithio ar Gareth o gwbl. Fydd e ddim yn broblem,” meddai Toshack wrth Radio Wales.

Effaith Zidane

Fe allai penodiad Zidane weld newid yn rôl Bale o fewn y garfan, a hynny ar ôl i Benitez ddechrau rhoi rôl fwy canolog iddo o fewn y tîm.

Bydd yn rhaid aros i weld ble fydd Zidane yn gweld y Cymro yn ffitio, gyda Cristiano Ronaldo, Karim Benzema a James Rodriguez i gyd hefyd yn cystadlu am lefydd ymosodol.

Fe allai lle Bale neu un o’r ymosodwyr eraill yn y tîm fod o dan fygythiad os yw Real Madrid yn penderfynu mynd ar ôl asgellwr Chelsea Eden Hazard, chwaraewr y mae Zidane wedi edmygu’n gyhoeddus yn ddiweddar.

Ond roedd rheolwr newydd Real Madrid hefyd yn allweddol yn yr ymdrechion i arwyddo Bale yn y lle cyntaf, yn ei gyn-rôl fel llysgennad a hyfforddwr gyda’r clwb, ac felly mae’n debygol y bydd Bale yn ei weld fel un o’i brif gynghreiriaid.

Rhyddhau i Gymru

Mae’n golygu hefyd y bydd yn rhaid i reolwr Cymru Chris Coleman, sydd wastad wedi ceisio magu perthynas dda â Real Madrid er mwyn sicrhau bod Bale ar gael i’w wlad, nawr yn gorfod delio â rheolwr gwahanol eto.

Ond mae Zidane hefyd wedi dangos agwedd bositif yn y gorffennol ynglŷn â gweld Bale yn gwisgo’r crys coch.

Yn 2014 fe ddywedodd y byddai’n siom enfawr petai chwaraewr drytaf y byd byth yn cael y cyfle i chwarae mewn twrnament rhyngwladol gyda Chymru, rhywbeth y bydd Bale nawr yn cael y cyfle i wneud eleni.

“All un chwaraewr ddim cyrraedd Ewro 2016, ond fe all Gareth fod yn arweinydd ar Gymru,” meddai Zinedine Zidane cyn ychydig cyn i’r ymgyrch ragbrofol lwyddiannus ddechrau.

“Does dim ots pwy maen nhw’n chwarae yn eu herbyn yn y gemau rhagbrofol, pan fydd Gareth ar y cae mae wastad ganddyn nhw rywun all ennill y gêm iddyn nhw.”