Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn pendroni beth allwn ni ddisgwyl ym myd y bêl gron eleni …
Mae 2016 wedi’n cyrraedd ni o’r diwedd, a gyda’r holl sôn am ‘da-chi’n-gwybod-beth yn yr haf mae’n syndod mai dim ond rŵan ‘da ni’n ffarwelio â 2015.
Do, mi fuodd hi’n flwyddyn dda i’r bêl gron, yn fwy na dim oherwydd llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd Ewro 2016 a chreu hanes yn y broses.
Digon cymysglyd oedd llynedd i’r clybiau, gydag Abertawe yn gorffen yn uwch nag erioed yn yr Uwch Gynghrair a thimau Cymru’n gwneud yn dda yn Ewrop, ond tymhorau siomedig i eraill fel Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam.
Beth allwn ni ddisgwyl yn 2016 felly? Pwy sydd yn debygol o gipio’r penawdau, a phwy allai fod yn denu sylw am y rhesymau anghywir?
Y tîm cenedlaethol
Does dim ond un lle i ddechrau, a hwnnw ydi taith Cymru i Ewro 2016 ym mis Mehefin.
Mi fydd y misoedd nesaf yn hanfodol i obeithion rhai o’r chwaraewyr i sicrhau eu lle yn y garfan, un ai am eu bod nhw ar y cyrion neu oherwydd yr angen i gadw’n glir o anafiadau, ac mi fyddan ni’n cadw llygad arnyn nhw’n wythnosol rhwng rŵan a diwedd y tymor.
Chwaraewyr Cymru yn dathlu cyrraedd Ewro 2016 (llun: CBDC)
Mae gan Gymru obaith gweddol o wneud yn dda yn y twrnament unwaith fyddan nhw yno, yn fy marn i, ac mi allai’r gwrthwynebwyr yn sicr fod wedi bod yn anoddach na Lloegr, Rwsia a Slofacia.
Fe fydd y cefnogwyr yn sicr yn gobeithio y cawn nhw o leiaf pythefnos yn Ffrainc os ydi’r tîm yn cyrraedd yr 16 olaf, ac o fanno pwy a ŵyr.
Mae gan y tîm yma’r sêr, yr hyfforddwyr a’r ysbryd i guro’r goreuon ar eu dydd, a dydi rownd yr wyth olaf yn sicr ddim y tu hwnt i’w cyrraedd.
Bydd y gefnogaeth a gaiff y tîm yn siŵr o fod heb ei ail hefyd – dw i’n cytuno gyda sawl un sydd wedi awgrymu nad ydi pobl efallai wedi sylwi eto gymaint o hwb i statws Cymru fydd hi i gael chwarae ar y llwyfan yma, ac mae’n siŵr o elwa’r gêm yn yr hir dymor.
Beth bynnag ddaw o’r siwrne yn yr Ewros, nid dyna fydd pen y daith i Chris Coleman a’i dîm chwaith.
Cyn diwedd y flwyddyn fe fyddan nhw wedi herio Moldofa, Awstria, Georgia a Serbia ar ddechrau eu hymgyrch nesaf i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018, ac fe fydd yn rhaid cael dechrau da gan mai dim ond enillwyr y grŵp fydd yn bendant yn cael mynd i Rwsia ymhen dwy flynedd.
Croesi bysedd felly am haf llwyddiannus, a bod y momentwm hwnnw’n parhau hyd at gemau’r hydref.
Abertawe
Os oedd wyth mis cyntaf 2015 yn dda i Abertawe, doedd diwedd llynedd yn sicr ddim yn gyfnod i’w thrysori.
Dydi’r clwb dal heb benodi olynydd i Garry Monk, ac mae’n edrych yn fwy tebygol bellach y gallai Alan Curtis gadw’r swydd dros dro nes diwedd y tymor wrth i’r Elyrch fethu yn eu hymdrechion hyd yn hyn i ddenu’r rheolwr iawn.
A fydd Alan Curtis yn parhau fel rheolwr dros dro?
Am y tro cyntaf mewn gwirionedd ers cyfnod cynnar Abertawe yn yr Uwch Gynghrair dw i’n poeni a fyddan nhw’n llwyddo i aros i fyny.
Does dim dwywaith bod eu carfan yn ddigon cryf, ond fe allai’r ansicrwydd parhaol weld mwy a mwy o nerfusrwydd yn cael ei greu o fewn y garfan yn enwedig os nad ydi canlyniadau’n dechrau troi o’u plaid.
Dw i dal yn ffyddiog bod tri thîm gwaeth na’r Elyrch yn y gynghrair, ond mae’n bosib ar hyn o bryd mai rhyw faglu dros y llinell derfyn fyddan nhw ym mis Mai.
Os wnawn nhw hynny, a’r rheolwr newydd yn cael cyfle i gryfhau’r garfan dros yr haf, fe fyddan nhw mewn safle gwell yr adeg yma flwyddyn nesaf nag y maen nhw rŵan.
Caerdydd
Mae’n anodd gwybod beth i feddwl gyda Chaerdydd – dydyn nhw ddim yn cael tymor ffôl, a dim ond ychydig y tu allan i safleoedd y gemau ail gyfle maen nhw.
Ond o edrych ar eu carfan does fawr ddim yn cyffroi – dim chwaraewyr sydd yn barod i’w llusgo nhw i’r lefel nesaf, ac yn sicr dim chwaraewyr ‘da chi’n teimlo sydd yn llawer rhy dda i’r Bencampwriaeth.
Dw i ddim yn eu gweld nhw’n gorffen yn y chwech uchaf, er na fyddan nhw’n bell ohoni, ond ar hyn o bryd does dim i’w weld yn cyffroi’r cefnogwyr i ddychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd llawer yn dibynnu ar faint o arian gaiff ei roi gan Vincent Tan i’w wario yn yr haf, ond os ydi sylw’r perchennog yn rhywle arall mae’n reit bosib mai jyst cadw Russell Slade wrth y llyw a gosod y nod o fod yn gystadleuol yn y gynghrair fydd y bwriad.
Casnewydd
Tom O'Sullivan (chwith), sydd ar fenthyg yng Nghasnewydd o Gaerdydd, yn serennu gyda thîm dan-21 Cymru (llun: CBDC)
Mae tîm John Sheridan yn edrych fel tasen nhw ar i fyny, ond y gwir ydi eu bod nhw dal yn 20fed yng Nghynghrair Dau ac yn wynebu brwydr galed i aros yn y gynghrair.
Gyda’r clwb yn brin o arian, a’r sefyllfa hwnnw ddim yn debygol o newid yn fuan, mae’n rhaid derbyn mai parhau i frwydro ar y gwaelodion fydd eu nod nhw eleni, a thymor nesaf os ydyn nhw dal yno.
Serch hynny mae ambell i chwaraewr disglair yn eu carfan, gan gynnwys aelodau o dimau ieuenctid Cymru, ac fe fyddai’n dda eu gweld nhw’n parhau i gael eu cyfle eleni.
Wrecsam
Y gemau ail gyfle fydd y gobaith rhwng rŵan a diwedd y tymor, gyda’r rheolwr Gary Mills yn mynnu bod y targed hwnnw yn dal i fod o fewn cyrraedd.
Byddai Wrecsam yno petai nhw’n ennill y gemau ychwanegol sydd ganddyn nhw ar y timau o’u cwmpas, ond diffyg cysondeb yw eu problem nhw’n ddiweddar.
Annhebygol o godi eleni, ond gyda’r clwb yn sefydlog a gobaith o hyd o ymweld â Wembley unwaith eto yn Nhlws FA Lloegr, mi all y Dreigiau hefyd obeithio am well 2016 na 2015.
Uwch Gynghrair Cymru
Darren Thomas (dde) yn chwarae dros Gaernarfon
Does neb yn darogan unrhyw beth oni bai am bencampwriaeth arall i’r Seintiau Newydd erbyn mis Mai (a chyn hynny mwy na thebyg), tra bod Hwlffordd yn edrych mewn perygl o ddisgyn gyda Rhyl a Phort Talbot hefyd yn brwydro i gadw’u pennau uwch ben y dŵr.
Bydd hi’n ddiddorol gweld a fydd Llandudno yn gallu aros yn yr ail safle neu os fydd timau fel y Bala, sydd ond wedi colli tair gêm hyd yn hyn, yn gwthio’u ffordd i fyny’r tabl.
Ar ôl eu perfformiadau gorau yn Ewrop ers tro byd llynedd, yr her i bwy bynnag fydd yn ymuno â’r Seintiau yn y cystadlaethau cyfandirol eleni fydd ceisio cynnal y safon gafodd ei osod gan y Drenewydd, Airbus a’r Bala.
A ‘sgwn i os mai 2016 fydd y flwyddyn lle gwelwn ni Caernarfon yn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair? Nhw a’r Derwyddon Cefn sydd yn arwain y ras am ddyrchafiad o’r Cymru Alliance ar hyn o bryd, tra bod Met Caerdydd ar frig Cynghrair Cymru y de ar ôl methu â chodi llynedd.
Beth ydych chi’n disgwyl ei weld yn digwydd ym myd y bêl gron yng Nghymru eleni? Gadewch eich sylwadau isod.