Ben Davies yn gwylio'i ergyd yn taro'r trawst (llun: Martin Rickett/PA)
Ydi, mae hi’n 2016 o’r diwedd, ac i Gip ar y Cymry Golwg360 mae hynny’n golygu dim ond un peth – blwyddyn yr Ewros!

Fe fydd ein cip wythnosol ni ar sut mae chwaraewyr Cymru’n ei wneud gyda’u clybiau’n mynd hyd yn oed pwysicach o hyn ymlaen wrth i ni weld pwy fydd yn arwain y ffordd gyda’u perfformiadau wrth geisio sicrhau lle ar yr awyren i Ffrainc – a phwy fydd yn cadw’n ffit.

Un fydd yn sicr yn ganolog i obeithion tîm Chris Coleman yn y bencampwriaeth fydd Gareth Bale, ac fe ddechreuodd o 2016 gyda pherfformiad cryf dros Real Madrid yn erbyn Valencia yn La Liga.

Er mai rhannu’r pwyntiau wnaeth y ddau dîm gyda sgôr cyfartal o 2-2, sgoriodd Bale y gyntaf gyda pheniad pwerus o gic rydd, ac roedd yn rhan o symudiad gwych yn cynnwys Ronaldo a Karim Benzema ar gyfer yr ail.

Yr Uwch Gynghrair

Un arall serennodd dros ei glwb ddydd Sul, yn Uwch Gynghrair Lloegr y tro hwn, oedd Ben Davies wrth i’r ornest rhwng Spurs ac Everton orffen yn gyfartal o 1-1.

Tarodd Davies y trawst gyda chwip o ergyd yn yr hanner cyntaf ac fe gyfrannodd yn ymosodol ar sawl achlysur i’w dîm, er bod asgellwyr Everton wedi’i gadw’n ddigon prysur ar ben arall y cae.

Roedd tri Chymro ar y cae erbyn diwedd gêm Crystal Palace a Chelsea wrth i Joe Ledley a Jonathan Williams ddod oddi ar fainc yr Eagles, ond colli 3-0 oedd eu hanes nhw a Wayne Hennessey.

Hon oedd ymddangosiad cyntaf Joniesta yn yr Uwch Gynghrair ers bron i flwyddyn a hanner, ac fe gyfaddefodd rheolwr Palace Alan Pardew nad oedd wedi gweld digon o’r chwaraewr canol cae i’w argyhoeddi ei fod yn haeddu gemau cyson eto.

Serennodd James Collins yn amddiffyn West Ham wrth iddyn nhw drechu Lerpwl o 2-0, gyda Joe Allen yn dod oddi ar y fainc am y deg munud olaf i’r ymwelwyr.

Roedd Aaron Ramsey a Paul Dummett yn wynebu’i gilydd wrth i Arsenal guro Newcastle o 1-0, buddugoliaeth oedd yn golygu bod Andy King a Caerlŷr yn aros yn yr ail safle yn y gynghrair ar ôl eu gêm ddi-sgôr nhw â Bournemouth.

Colli o 2-1 wnaeth Ashley Williams a Neil Taylor gydag Abertawe yn erbyn Man United, er i Williams ddod yn agos at guro’r golwr David de Gea gyda pheniad.

Ar y fainc eto oedd James Chester wrth i West Brom guro Stoke o 2-1 gyda gôl hwyr, ac yn ymuno ag o ymysg yr eilyddion oedd yr ymosodwr ifanc 17 oed Tyler Roberts.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth fe sicrhaodd Huddersfield fuddugoliaeth gyfforddus o 2-0 yn erbyn Bolton gyda Joel Lynch ac Emyr Huws yn y tîm, a Lynch yn gyfrifol am greu’r cyfle ar gyfer y gôl gyntaf.

Chwaraeodd Morgan Fox a David Vaughan gemau llawn wrth iddi orffen yn 1-1 rhwng Charlton a Nottingham Forest, gyda Vaughan yn cael cerdyn melyn am dacl flêr hwyr.

Fe enillodd Reading o 1-0 yn erbyn Bristol City gyda gôl hwyr wrth i Chris Gunter chwarae gêm lawn, a Hal Robson-Kanu a Wes Burns ddod oddi ar y fainc.

Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Sam Vokes, Tom Lawrence, Jazz Richards a Dave Edwards gemau llawn, cafodd Andrew Crofts 74 munud ar y cae, ac fe ddaeth Joe Walsh a Simon Church ymlaen fel eilyddion hwyr.

Ac yn Uwch Gynghrair yr Alban fe gadwodd Owain Fôn Williams lechen lân wrth i Inverness drechu Ross County 2-0.

Seren yr wythnos – Ben Davies. Nôl yn  nhîm Spurs ac yn cynnig perfformiad da i gyfiawnhau ei le.

Siom yr wythnos – Wayne Hennessey. Ildio tair yng ngôl Palace, er na fydd llawer yn beio’r golwr am fethu â’u harbed.