Mae 20% o rieni Cymru’n ei gweld hi’n anodd perswadio’u plant i roi’r gorau i ddefnyddio’u dyfeisiau technoleg a throi i ffwrdd o’u sgriniau, yn ôl arolwg diweddar gan elusen.

Fe wnaeth Gweithredu dros Blant gynnal arolwg i ymchwilio i ba fath o ymddygiad oedd rhieni’n eu gweld yn heriol yn eu plant.

Fe wnaeth 20% o rieni Cymru ymateb gan ddweud mai cyfyngu ar ddefnydd o ddyfeisiau technoleg oedd mwyaf anodd. Fe ddywedodd 12% mae cael plant i’r gwely oedd fwyaf heriol, a 10% yn dweud mai eu cael i wneud eu gwaith cartref oedd anoddaf.

‘Cadw’r cydbwysedd’

Fe esboniodd Brigitte Gater, Cyfarwyddwr gwasanaethau Gweithredu dros Blant Cymru fod “technoleg yn aml yn rhan angenrheidiol o fywydau plant a rhieni fel ei gilydd, ond mae’n bwysig i gadw’r cydbwysedd gyda gweithgareddau eraill a threulio amser yng nghwmni’r teulu.”

Fe ychwanegodd fod “perthynas dda” rhwng plant a rhieni yn gwneud y plentyn yn “llai tueddol o fwlio neu gam-drin tu allan i’r cartref. Mae’n eu hannog i siarad â’u rhieni am unrhyw bryderon neu ofnau sydd ganddyn nhw.”

Argymhellion

Am hynny, mae Gweithredu dros Blant yn cynnig argymhellion i rieni fynd ati i annog eu plant i droi oddi wrth eu dyfeisiau.

Maen nhw’n cynnig y dylid cynllunio gweithgareddau i’r teulu cyfan nad sy’n ymwneud â thechnoleg. Er mwyn cadw’r cydbwysedd rhwng gweithgareddau technoleg ac eraill, maen nhw’n awgrymu llunio amserlen wythnosol fesul awr.

Maen nhw’n annog rhieni i gynnal gweithgareddau oedden nhw’n arfer eu mwynhau fel plentyn, gan adnabod yr apêl mewn gemau cyfrifiadurol a’u trosglwyddo’n weithgareddau go iawn.

Yn ogystal, maen nhw’n annog rhieni i beidio â defnyddio dyfeisiau technoleg pan na fydd eu plant.