Mae dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl iddi gael ei tharo gan gar yn Aberystwyth neithiwr.

Roedd y ddynes yn croesi’r ffordd pan fu mewn gwrthdrawiad a  Toyota Yaris gwyn ychydig cyn 6:30yh nos Lun yn agos i fwyty a thafarn y Starling Cloud ar Boulevard De Saint Brieuc.

Cafodd y ddynes ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Bu’r ffordd ynghau tra bod ymchwilwyr ar y safle ac mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am unrhyw wybodaeth.